Hurio Bws Mini

Beth bynnag yw eich clwb, cymdeithas neu adran, fe allwn ni eich darparu â Bysiau Mini er mwyn sicrhau llwyddiant eich trip.


Ynglyn â’r Fflyd:

Yma yn UMAber mae gennym fflyd o 4 bws mini o’r radd flaenaf. Mae pob un o’n bysiau mini yn rhai 14 sedd (1 gyrrwr, 13 teithiwr)

Bysiau Mini Ford Transit 2.2 Litr TDCi.

Mae ein fflyd yn derbyn gwasanaeth bob 10 wythnos er mwyn sicrhau eich bod yn cael siwrnai gyfforddus. Hyd yn oed petai’r gwaethaf yn digwydd, mae gennym yswiriant torri i lawr hawdd i’w ddefnyddio a fyddai’n trwsio’r cerbyd mewn dim, neu’n anfon cerbyd arall o fewn 2 awr i’ch dychwelyd adref.

Rydym yn elusen nid-er-elw, felly byddai unrhyw gostau yn cael eu mewnbynnu’n ôl yn syth  ar gyfer cynnal y fflyd a phrofiad y Myfyrwyr.


Dreifio Bws Mini:

Er mwyn gallu dreifio bws mini mae’n rhaid i chi fod yn o leiaf 21 oed a bod â thrwydded yrru UE llawn ac yn lân.


Hurio Bws Mini:

Os ydych yn dymuno hurio bws mini mae’n rhaid ichi fod yn glwb, yn gymdeithas neu’n adran o fewn yr Undeb/y Brifysgol neu yn sefydliad elusennol, sefydliad addysg neu’n sefydliad nid-er-elw.

O ddydd Mercher 24ain Medi 2014 ymlaen, ni ellir bwcio Bws Mini ar-lein. Gwenir hynny drwy ymweld a'r Gweinyddwr Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn yr Undeb.

Mae ein bysiau mini yn KBE, RLV, OEP a OES.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, peidiwch â bod ofn cysylltu ar union.minibus@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576