Sbotolau ar Gwirfoddolwyr Myfyrywr: Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (GCA)
|
Sut mae eich cymdeithas wedi rhoi amser o’i gwirfodd?
|
Fel grwp gwirfoddoli cadwraeth ymarferol, mae GCA yn helpu sefydliadau eraill i warchod a gwella'r amgylchedd a bioamrywiaeth lleol. Rydyn ni’n ymgymryd â thasgau ar brynhawniau Sadwrn a ddydd Mercher, megis bwrw prysgwydd, adfer mawndiroedd, rheoli planhigion ymledol, cynnal a chadw a chreu llwybrau troed, garddio cymunedol ac arolygon bywyd gwyllt. Rydyn ni’n mwynhau teithio i fannau naturiol Cymru, cael profiad gan weithwyr cadwraeth proffesiynol o lefydd fel yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Eryri, dysgu mwy am fywyd gwyllt lleol a chysylltu â byd natur.
|
Beth yw’r uchafbwynt gorau un i’ch grwp?
|
“gwaith tîm clos wrth lifio a dadwreiddio conwydd yn Eryri.”
“yr arolwg Dolffinod yn y Cei Newydd gyda Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion”
“Ymweld â Broniwan a helpu cynnal ffrydiau a chynnal dolydd/prysgwydd.”
|
Pa fuddion ydy eich gwirfoddolwyr wedi’u hennill wrth wirfoddoli gyda chi?
|
“mae’n esgus i fi wneud ymarfer corff a chymdeithasu.”
“oedd o fudd mawr i fi – wedi ychwanegu cymaint i fy CV ac wedi helpu i fi gael fy swydd gyda’r Ymddiriedolaeth Natur.”
“Ces i lawer o brofiad wrth ei wneud a fydd o fudd i fi pan yn chwilio am swyddi yn y dyfodol. Y gwir amdani hefyd yw fy mod i wrth fy modd treulio amser yn yr awyr agored!”
|
Oes gannddoch chi unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddynt?
|
Drwy ddod yn aelod, byddwch yn derbyn e-byst rheolaidd i gymryd rhan yn ein tasgau cadwraeth. Mae hyn yn £10 am y flwyddyn gyfan ac yn helpu talu am ein costau cludiant. O ddiddordeb arbennig eleni mae prosiect creu llwybrau yng Nghoed Penglais lleol a fydd yn digwydd dros sawl diwrnod rhwng Ionawr a Mawrth. Ochr yn ochr â hynny, rydyn ni'n gwneud tasgau yn yr ardd gymunedol y tu ôl i'r UM bob yn ail ddydd Mercher. Mae gennym hefyd amserlen gyffrous ar gyfer y Sadwrn sydd i ddod, gan gynnwys gweithio ym Mhrosiect Gweilch y Pysgod Dyfi a dwy daith i helpu yn Eryri.
|
Ydy gwirfoddoli wedi’ch ysbrydoli i ddilyn gyrfa neu brosiect newydd?
|
“Ydy – roedd yn ysgogiad mawr i fi ddilyn fy ngyrfa mewn cadwraeth”
|
Gwirfoddoli Undeb Aberystwyth
|
Os ydych chi am wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth, yna dyma’r lle i chi! Un a ydych chi eisiau gwirfoddoli’n rheolaidd yn y gymuned, diwrnod gweithredu untro neu brosiect myfyriwr; nid oes diffyg cyfleoedd i chi
Gennych chi mae’r dewis o ran y fath o wirfoddoli neu’r amser rydych chi’n rhoi y tu allan o’ch astudiaethau. Ond cewch chi ddewis mwy nag un cyfle gwirfoddol. Po fwyaf rydych chi’n ei wneud, po fwyaf y buddion y byddwch chi’n eu hennill
I ganfod mwy, ewch i: www.umaber.co.uk/gwirfoddoli |