Delio â datgeliadau o ymosodiad rhywiol

Trosedd grym a rheolaeth yw ymosod rhywiol. Y peth pwysicaf yw ymateb mewn ffordd sy'n gwneud y gorau o'u dewis a rhoi  rheolaeth iddynt dros yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Cewch holi ynglyn â'r hyn sydd ei angen neu ei eisiau arnynt. Efallai na fyddan nhw'n gwneud yr un penderfyniad y byddech chi'n ei wneud; fodd bynnag, dim ond nhw all benderfynu ar yr hyn sydd orau iddynt. Gallwch chi eu helpu i ymchwilio i'r opsiynau, ond osgowch ddweud wrthyn nhw beth ddylen nhw ei wneud.


Cofiwch

  • Efallai na fyddan nhw am dynnu sylw'r heddlu neu'r Brifysgol i'r ymosodiad. Mae llawer o resymau pam gall rhywun ddewis peidio â rhoi gwybod am drais rhywiol.
  • Ym mwyafrif yr achosion o ymosodiad rhywiol, mae'r dioddefwr yn hysbys i'r troseddwr.
  • Mae'n bosib eu bod nhw'n pryderu na fydd pobl yn eu credu neu efallai na fyddan nhw'n cydnabod yr hyn ddigwyddodd fel ymosodiad rhywiol.
  • Mae'n bosib y byddan nhw'n poeni pwy arall allai gael gwybod.
  • Mae'n bosib eu bod nhw'n ofni neu'n ddryslyd am y system gyfiawnder troseddol neu'r hyn fydd yn digwydd os byddwch chi'n rhoi gwybod i'r Brifysgol.
  • Pe bai cyffuriau neu alcohol yn gysylltiedig, mae'n bosib y byddan nhw'n dewis peidio ag adrodd amdano gan eu bod nhw'n poeni y byddan nhw'n mynd i drafferthion hefyd.
  • Mae'n bwysig eu bod nhw'n penderfynu ar yr hyn maen nhw am ei ddatgelu ac i bwy. Gall eich cymorth eu helpu i siarad ynglyn â'u pryderon.
  • Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi'n eu credu ac yn cefnogi eu penderfyniadau.
  • Atgoffwch nhw nad oes gan neb, waeth beth fo'r berthynas, yr hawl i'w brifo a beth bynnag ddigwyddodd, nid eu bai nhw oedd hi.
  • Cysylltwch nhw â’r adnoddau all eu helpu nhw i ddeall yr hyn fydd yn digwydd os byddwch chi'n adrodd i'r heddlu neu'r Brifysgol.

Pethau i'w hosgoi

  • Dweud "nid eich bai chi yw hyn" (heb wrando ar stori'r goroeswr)
  • Defnyddio ymadroddion neu ddywediadau cyffredinol - e.e. "daw popeth yn well gydag amser"
  • Tyrchu am fanylion. Gadewch iddyn nhw ddweud wrthych am yr hyn a ddigwyddodd yn eu hamser eu hunain
  • Eu cyhuddo – e.e. "beth oeddech chi'n ei wisgo?" a "oeddech chi'n yfed?" neu "wnaethoch chi anfon neges destun iddyn nhw i ddod draw?"
  • Dangos siomedigaeth neu sioc
  • Crechwenu a dangos anghrediniaeth amlwg
  • "Pam wnaethoch chi ddim dweud yn syth? Pam ydych chi'n ond dod â’ch cwyn i’r amlwg nawr?"
  • Gwneud esgusodion – "dim ond tipyn o hwyl oedd e"

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576