Gwaredu Straen Arholiadau Aber

Yn aml gall cyfnodau arholiadau ac asesu fod yn gyfnod prysur iawn i lawer o fyfyrwyr gyda amser arholiadau ac therfynau asesu yn rysáit ar gyfer gorlwytho posibl.

Eleni mae'r Brifysgol ac Undeb Aber yn gweithio mewn partneriaeth â digwyddiadau a gweithgareddau i'ch cefnogi yn ystod cyfnodau arholiadau ac asesu.

Rydym hefyd am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch yn ystod y cyfnod, felly peidiwch â bod ofn edrych ar y wybodaeth ar ddiwedd y dudalen hon i gael gwasanaethau cymorth ac awgrymiadau defnyddiol.

Mae’r tabl isod yn dwyn sylw at amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Er ein bod wedi cadarnhau cymaint o weithgareddau a digwyddiadau â phosibl, rydym yn dal i gwblhau cwpl o fanylion felly gwnewch yn siwr eich bod yn edrych yn ôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Pob lwc gan bawb yn Undeb Aber!

 


DYDDIAD

DIGWYDDIAD

Dydd Llun 6ed - dydd Gwener 10eg Mai

 

 

Gwaredu Straen Arholiadau yn Aber

Mae Gwaredu Straen Arholiadau yn Aber yn ddigwyddiad wythnos o hyd, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr gael hwyl ac ymlacio rhywfaint. Gall cyfnodau arholiadau ac asesu fod yn adeg eithriadol o brysur i lawer o fyfyrwyr.

Rydym am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch yn ystod y cyfnod hwn, a dyna pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol i'ch cynorthwyo gyda gwybodaeth, gweithgareddau a digwyddiadau.

Mae'r tabl isod yn dwyn sylw at amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Pob lwc oddi wrth bawb yn Undeb Aber!

 

10yb - 12:30yp & 1yp- 3yp, dydd Mercher 8fed Mai

 

Galw Heibio am Gyngor Academaidd

Gwasanaeth Cynghori, Undeb Aber

Ateb eich cwestiynau, amgylchiadau arbennig, apeliadau, arferion academaidd annerbyniol a materion academaidd eraill.

Gallwch alw heibio ar unrhyw adeg i gael cyngor annibynnol am ddim.

 

Dydd Mercher 8fed Mai

Asynnod Dyfi

PJM, ar y llain laswellt yng nghefn 41

Mae Asynnod Dyfi yn dod yn ôl i'r campws ar gyfer wythnos Gwaredu Straen!

Os hoffech chi gwrdd â'r asynnod, rydyn ni'n rhedeg slotiau 15 munud fel y gallwch chi gael rhywfaint o amser o ansawdd yn rhyngweithio â'r asynnod a dysgu mwy amdanyn nhw gan eu perchennog.

Byddwn yn gofyn i chi ar y diwrnod hwnnw roi rhodd o’ch dewis a bydd yr holl arian yn mynd i noddfa’r asynnod.

 

9yb - 1yp dydd Iau 9fed Mai

Sesiwn Astudio Swyddogion y Gyfadran

Picturehouse, Undeb Aber

Beth am ddod i astudio gyda rhai o'n swyddogion etholedig a swyddogion y gyfadran yn y Picture House. Dylai cael yr amser penodol hwn i gael eich pen i lawr a chanolbwyntio ar eich astudiaethau eich helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau ac asesiadau.

 

2yp - 4:30yp dydd Iau 9fed Mai

Lluniaeth am ddim gan swyddogion y llyfrgell

Desg 1, Llyfrgell Huw Owen

Dewch i gael diod boeth am ddim gan un o’ch swyddogion etholedig cyfeillgar i’ch helpu i astudio. Bydd te, coffi neu siocled poeth ar gael.

 

Gydol yr Wythnos

 

Gorsaf lliwio

Tanddaearol, Undeb Aber

Yn ogystal â’n holl weithgareddau a digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio, bydd gennym hefyd orsaf liwio wedi’i gosod tanddaearol yr UM.

Bydd hyn yn cynnwys taflenni lliwio, beiros a phensiliau.

 

Gydol yr Wythnos

 

Cegin Gymunedol

Tanddaearol, Undeb Aber

Yn yr ardal tanddaear, bydd gennym amrywiaeth o ddiodydd a lluniaeth ar gael er mwyn i chi gymryd seibiant o astudiaethau.

Yn y cyfamser, os ydych chi am chwarae gêm fwrdd er mwyn ymlacio, mae'r rhain ar gael drwy gydol y flwyddyn o'n derbynfa; y cyfan sydd ei angen arnoch i fenthyg un yw eich Cerdyn Aber.

 

Gydol yr Wythnos

 

Ystafell Lesiant, Undeb Aber

Ar gael drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond ar gyfer arholiadau, mae'r ystafell fach ond cyfforddus hon, sydd ar goridor gwaelod Undeb y Myfyrwyr, yn darparu lle tawel ar gyfer adolygu neu hunan-ofal.

 

Dydd Mawrth 14eg Mai

Dad-straen gyda dêt ci

Prif Ystafell, Undeb Aber

Bydd Cariad Pet Therapy ar y safle gyda nifer o ffrindiau blewog y gallwch eu cyfarfod.

 


Gwasanaethau Cymorth

Yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau, rydym am eich atgoffa o rai o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael pe baech chi eu hangen yn ystod cyfnod a all beri cryn straen.

Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber

Cysylltu  Chynghorydd

Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Cyngor ac Arian

Ffôn: 01970 621761/622087

E-bost: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk

Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Lles

Ffôn: 01970 621761/622087

E-bost: lles@aber.ac.uk

Gwasanaethau Myfyrwyr - Gyrfaoedd

Ffôn: 01970 622378

E-bost: gyrfaoedd@aber.ac.uk

 

Peidiwch ag anghofio bod amrywiaeth o bobl ar draws y campws a all gynnig gair o gyngor a chefnogaeth, gan gynnwys mentoriaid myfyrwyr, tiwtoriaid personol a staff yn eich adran.


 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576