Archebu Ystafelloedd ar gyfer Clybiau, Cymdeithasau a Myfyrwyr

Argaeledd dechrau ar y wythnos o'r 14/11/16

Mwy...



Fel aelod o UMAber, mae gan Glybiau, Cymdeithasau a Myfyrwyr fynediad at nifer o adnoddau defnyddiol gwahanol. Mae rhain yn cynnwys y gallu i archebu bws mini Undeb y Myfyrwyr am ffî fechan,  trefnu stondin yn rhad ac am ddim* o fewn yr adeilad ar gyfer codi arian neu gyhoeddusrwydd, ac archebu ystafell (neu ystafelloedd os oes angen) yn rhad ac am ddim* i’w defnyddio at ba bynnag defnydd.

Yr Undeb yw’ch cynhaliwr (fel petai) ac os hoffech siarad ag aelod o staff i drafod opsiynau mae pob croeso i chi gysylltu â’n tîm cyfeillgar wrth y dderbynfa fydd yn gallu cynnig mwy o gyngor i chi o ran archebion: undeb@aber.ac.uk / 01970 621700.

(*Mae’r pris sy’n rhad ac am ddim yn cyfeirio at yr holl weithgareddau anfasnachol fewn adeiladau UMAber, ac yn cynnwys gweithgareddau codi arian.)

I ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynghylch y bysiau mini, ac i archebu, cymerwch olwg ar y tudalennau bws mini fan hyn. Gallwch archebu ar-lein a byddwch yn derbyn hysbysiad trwy e-bost os ydy’r archeb yn un llwyddiannus.

Archebion Ystafelloedd ar gyfer Clybiau, Cymdeithasau a Myfyrwyr UMAber

Mae’r ystafelloedd canlynol ar gael i’w harchebu: Yr ystafell gyfarfod, yr ystafell bwyllgor, Ty’r Lluniau (y gangen gynt) a Phrif ystafell yr Undeb.

Mae’n hawdd iawn archebu ystafell yn adeilad UMAber, dilynwch y camau syml canlynol:

1. Penderfynwch, i beth yr hoffech ddefnyddio’r gofod (e.e. ymarfer, cyfarfod, sosial, codi arian, noson ffilmiau ac unrhyw beth arall o fewn rheswm!)

2. Dewiswch yr ystafell briodol (os nad ydych yn sicr o ran medrau ystafell, neu ba fath o dechnoleg sydd ar gael ym mhob un, cymerwch olwg ar ein canllaw defnyddiol fan hyn.) Mae gan rai ystafelloedd sgriniau taflunio 190” HD llawn enfawr, eraill gyda byrddau cyfarfod, a rhai â gofodau agored - eich penderfyniad chi ydyw!  

3. Cwblhewch eich ffurflen archebu a’i adael wrth y dderbynfa neu ei e-bostio atom. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu os yw’r ystafell neu ofod yr oeddech wedi ei archebu ar gael.

 

Archebu Stondin yn yr Undeb ar gyfer Clybiau, Cymdeithasau a Myfyrwyr UMAber

Mae archebu stondin yn yr Undeb mor syml â’r broses uchod. Penderfynwch, i beth y byddwch angen y stondin, cwblhewch y ffurflen archebu sydd ar gael fan hyn, anfonwch y ffurflen atom (naill ai drwy e-bost neu wrth law'r dderbynfa) a bydd y dderbynfa yn eich hysbysu os yw’r gofod ar gael i chi a dweud wrthych ble y gallwch osod eich stondin.