Llywodraethu

Mwy...


 

Sut Rydym yn Gweithredu

Mae popeth rydym yn ei wneud fel undeb myfyrwyr yn dwyn budd i fyfyrwyr ac yn eu hyrwyddo; yn y bôn, myfyrwyr Aberystwyth yw'r rheswm rydym yn bodoli. Gan ein bod yn fudiad a arweinir gan ein haelodaeth, credwn ei fod yn hanfodol i chi wybod sut rydym yn gweithredu a thrwy hyn, sut mae modd i chi gyfranogi.

Rydym yn Awtonomaidd

Er rydym yn derbyn cyllid oddi wrth Brifysgol Aberystwyth ac yn gweithio'n agos gyda nhw, rydym yn fudiad awtonomaidd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod modd i ni barhau i ganolbwyntio'n glir ar ein haelodau gydag un amcan mewn golwg – gwella bywyd myfyrwyr yn Aber.

Chi sy'n ein harwain

Fel rydych yn siwr o fod yn gwybod, myfyrwyr yw craidd popeth rydym yn ei wneud. Rydym wrth ein bodd yn rhoi cyfleoedd i'n haelodau ddylanwadu ar eu hundeb, eu campws a'u cymuned mewn unrhyw fodd y gallwn. Mae hyn yn cynnwys rolau i fyfyrwyr ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cyngor yr Undeb a Thîm y Swyddogion.

Rydym yn elusen

Fel cymaint o undebau myfyrwyr ledled y DU, rydym yn elusen gofrestredig. Yn gryno, dyma'r hyn y mae bod yn elusen yn ei olygu:

  • Rydym yn gweithredu nid er elw
    Mae unrhyw incwm rydym yn ei greu o'n gweithgareddau masnachol yn mynd yn syth yn ôl at ddarparu gwasanaethau ar eich cyfer chi.
  • Cawn ein llywodraethu gan Gyfraith Elusennau
    Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau ein bod yn gwario ein harian ar y pethau cywir – fel myfyrwyr a'u profiad.
  • Rydym yn ateb ein Haelodau
    Fel y dwedasom yn gynharach, rydym yn gwneud popeth ar eich cyfer chi felly mae'n gyfiawn eich bod yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein haddewidion ac yn gwario'r arian yn y meysydd cywir.

Ar y tudalennau hyn fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod ynglyn â sut rydym yn gweithio i sicrhau bod eich aelodaeth yn wych, bod eich llais yn cael ei glywed a bod eich addysg yn gwella.