Rydym yn falch iawn o’r buddugoliaethau mawr i’n myfyrwyr. Dyma rai o’n llwyddiannau: 

Undeb Cyntaf i lofnodi'r Addewid Amser i Newid Cymru
Ym mis Tachwedd 2013, daeth UMAber yn Undeb Myfyrwyr cyntaf i lofnodi'r Addewid Amser i Newid Cymru, sy'n ein hymrwymo i roi cynllun gweithredu at ei gilydd i gael gwared ar stigma a gwahaniaethu yn ymwneud ag iechyd meddwl. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma

Codi arian ar gyfer Nawdd Nos
Ar gyfer Wythnos y Glas 2013, cynhaliodd eich Undeb 'Gwerthu Mawr', yn gwerthu rhoddion o eitemau cartref i fyfyrwyr newydd wrth iddynt gyrraedd Aberystwyth.  Fe roddwyd yr elw o £ 665 yn rodd i Nawdd Nos, gwasanaeth gwrando cyfrinachol a’i arweinir gan fyfyrwyr.

Cyflogadwyedd ar gyfer Myfyrwyr
Yn ystod y flwyddyn academaidd 2013/14, rydym wedi cyflogi 89 o fyfyrwyr i weithio yn ein gwasanaethau cymorth, sy'n cynnwys y siop, bar a’r dderbynfa. Rydym yn falch iawn o fod yn gallu darparu ein myfyrwyr â phrofiad gwaith yn ystod eu hamser yn Aberystwyth .

Mwy o le ar gyfer gweithgareddau
Ar gyfer Wythnos y Glas 2013, cynhaliwyd Ffair Y Glas enfawr ar y campws i hyrwyddo clybiau a chymdeithasau chwaraeon. Fe fynychwyd dros 5000 ohonoch, sydd wedi arwain at dros 1 /3 o'r corff myfyrwyr yn cymryd rhan yn weithredol mewn clwb chwaraeon neu gymdeithas.

Arwyr y Glas
Ar gyfer Wythnos y Glas 2013, fe wnaethant recriwtio a hyfforddi dros 200 o fyfyrwyr i weithredu fel y Arwyr Y Glas - i helpu myfyrwyr newydd i gyrraedd a setlo i mewn yn Aberystwyth, ac yn ei dro, creu argraff cyntaf enfawr ar gymeriant newydd eleni.

Aelodaeth Cymdeithasau a Chwaraeon Ar-lein
Y semester hwn, rydym wedi ailwampio aelodaeth Chwaraeon a Chymdeithasau i mewn i system ar-lein cyfleus , hygyrch drwy ein gwefan. Mae hyn wedi symleiddio'r broses ar gyfer clybiau a chymdeithasau i reoli aelodaeth , gan ei gwneud yn haws i fyfyrwyr i gofrestru ar gyfer gweithgareddau.

Adnewyddu yr Undeb
Mae adeilad yr Undeb wedi bod angen cael ei ailwampio ers spel, ac eleni, rydym wedi ailwampio hen gefn y Brif Ystafell i’r ‘Pictiwrs’ - lle gallech archebu i ddefnyddio’r cyfleusterau gwych.

Lansiad Siarter y Myfyrwyr

Mae pawb ym Mhrifysgol Aberystwyth â rolau a chyfrifoldebau, yn amrywio o fyfyrwyr unigol, i’r Undeb Myfyrwyr a’r Brifysgol. Roedd lansiad y Siarter Myfyrwyr newydd a chlir yn amlinellu disgwyliadau pob plaid, ac yn darparu myfyrwyr â throsolwg o’r hyn y gallent hwy ei ddisgwyl gan eu Hundeb a’r Brifysgol. Gallwch weld y Siarter Myfyrwyr newydd yma.

Arolwg Tai i’r Senedd

Yn 2012, lansiodd UMAber, Arolwg Tai er mwyn casglu data am brofiadau myfyrwyr yn byw mewn llety’r sector breifat. Cafodd y canlyniadau eu cymeradwyo gan San Steffan a chan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae UMAber eisoes wedi anfon diseb i Gynulliad Cymru, yn gofyn iddynt edrych yn ddyfnach i’r materion a godwyd. Bydd ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal yn awr.

Arwyr y Nos

Ar gyfer yr Wythnos Groesawu yn 2012, fe lansiom y cynllun Arwyr y Nos, a oedd yn cynnwys myfyrwyr cyfredol yn gweithio ar y strydoedd yn ystod y nos yn sicrhau bod myfyrwyr yn cadw’n hydradol â dwr, ac yn helpu i sicrhau eu bod yn darganfod cludiant i gyrraedd  adref yn ddiogel.

Sesiynau Caffi Meddwl

Yn rhan o’n hymgyrch i ledaenu gwasanaethau i fyfyrwyr, fe sefydlodd UMAber Sesiynau Caffi Meddwl a oedd yn cael eu rhedeg gan Gynghorydd Iechyd Meddwl, er mwyn darparu man annibynnol i fyfyrwyr drafod unrhyw bryderon ac i drafod unrhyw straenau oeddent  yn ei deimlo.

Condomau Am Ddim

Drwy weithredu’r cynllun cerdyn-C condom am ddim, mae UMAber wedi dosbarthu dros 1000 condom am ddim i fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Rhaglen Cyfeillion Rhyngwladol

Er mwyn cynorthwyo myfyrwyr rhyngwladol ac Erasmus newydd a oedd yn ymuno â’r Brifysgol, fe ddarparodd UMAber raglan ‘Cyfeillion Rhyngwladol’; a oedd yn cynnal llu o weithgareddau croeso, yn cynnal teithiau o amgylch y Brifysgol a sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol ac yn setlo yn Aberystwyth.