Hanfodion

Pethau i’w gwneud cyn cyrraedd Aberystwyth

Cyn i chi ddod i Aber, mae ambell beth y buasem yn argymell cael gafael arnyn nhw, fel gallwch ddechrau ar fywyd myfyrwyr yn gwbl ddi-ffwdan...

Hoffwch neu dilynwch @UMAberSU ar eich hoff sianel cyfryngau cymdeithasol

Facebook, TwitterInstagram and TikTok

Ymunwch ag unig grwp glasfyfyrwyr swyddogol Aberystwyth ar Facebook 

Drwy ymuno â'r grwp hwn, gallwch ddisgwyl; cysylltu a myfyrwyr newydd a'r rheiny sy'n dychwelyd i Aberystwyth - cyn i chi gyrraedd; canfod & rhannu gwybodaeth am fywyd yn y brifysgol; canfod gwybodaeth am clybiau chwaraeon a chymdeithasau. Cwrdd â phobl eraill fydd yn astudio ar yr un cwrs â chi a'r rheiny fydd yn byw yn yr un llety â chi. Ymunwch yma!

Gweithredwch eich cyfrif e-bost prifysgol

Dylech dderbyn e-bost gan y brifysgol gyda chyfarwyddiadau. Bydd angen y manylion mewngofnodi hyn arnoch i fewngofnodi i wefan UMAber er mwyn ymuno â chlybiau chwaraeon neu gymdeithasau.

Ymunwch â rhestr ohebiaeth clwb chwaraeon neu gymdeithas

Fel eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Prynwch eich cerdyn TOTUM NUS

i wneud y mwyaf o ddisgowntiau myfyrwyr ar unrhyw beth y mae angen i chi ei brynu cyn i chi ddod i Aber.

Sut i Ymuno â chlwb a / neu gymdeithas - Os ydych chi eisoes yn gwybod eich bod chi am ymuno â chlybiau a chymdeithasau penodol? Gallwch wneud hynny ar-lein cyn i chi hyd yn oed gyrraedd, (ar werth o 1af Medi) - ond does dim brys i wneud hyn; gallwch ymuno ag unrhyw glwb neu gymdeithas gydol y flwyddyn, does dim ots gennym ni.

Gwiriwch ein cerdyn bws myfyriwr - Os ydych chi'n mynd i fod yn byw yn y dref (neu ddim yn hoffi elltydd) gwiriwch ein cynnig cerdyn bws i arbed ££oedd ar deithio ar fws yn ardal Aberystwyth. Rydyn ni wedi ymuno â chwmni bws lleol, Mid Wales Travel, i gynnig y fargen orau i chi ar gyfer teithio o amgylch Aberystwyth.

Mwynhewch y profiad!!

Cymerwch gipolwg ar yr hyn mae UMAber wedi’i drefnu ar gyfer cyfnod y Glas. A sicrhewch docyn ar gyfer ein digwyddiadau #HeloAber yma!

 

 

 

Helo Aber student. We can't wait to welcome you to Aberystwyth in September! Our page will be updated with freshers tips, events and blogs between now and the start of the academic year.