Event

Taith IKEA Caerdydd

Hoff o’r syniad o daith i IKEA? Wel, dyma’ch cyfle! Byddwn yn mynd â chi yr holl ffordd i fyd hudolus IKEA ac yn ôl fel eich bod yn gallu rhoi eich tro eich hun ar eich cartrefi newydd. Mi fydd digonedd o ddodrefn a nwyddau cartref chwaethus a fforddiadwy at eich dant, ac ar ben hynny, bydd digon o amser i chi gael pryd blasus yn IKEA!

Bydd y bws yn gadael o risiau Canolfan y Celfyddydau am 8yb toc. Gwnewch yn siwr eich bod chi’n gynnar neu fydd y bws yn gadael hebddoch!

Fel arall, os hoffech chi deithio’n rhad gan fws i Gaerdydd ac yn ôl, mae modd i chi fynd ar y trên o Orsaf Grangetown (rhyw gwta 10 munud o IKEA) a dychwelyd trwy Gaerdydd Canolog. Y cwbl i’w gofio yw eich bod chi yn ôl yn IKEA erbyn 2:30yh i fynd ar y bws.

Manylion:

Gadael Aber am 8yb (fe fydd yn disgwyl wrth waelod grisiau Canolfan y Celfyddydau). Dewch yn brydlon a rhowch 15 munud i sicrhau ein bod yn cyrraedd mewn da bryd. Byddwn yn gadael IKEA am 2:30yh a dychwelyd i Aber tua 6yh (Gorsaf Fysus / grisiau Canolfan y Celfyddydau).

Nifer gyfyngedig o lefydd ar gael, uchafswm o 2 sedd fesul archeb.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi i Aberystwyth fis Medi! Bydd ein tudalen yn cael ei diweddaru gyda chyngor, digwyddiadau a blogiau rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn academaidd. Dilynwch ni ar @UndebAber