Event

Sêl Cilo Dillad Vintage

Dewch i gael eich swyno gan y blynyddoedd cynt wrth i chi chwilota trwy ddetholiad o hen ddillad o ansawdd, a gaiff ei brisio gan ei bwys. Mae’r gwerthiant fesul kilo yn addo rhywbeth i bawb, p’un a ydych chi’n hen law ar daro bargen neu’n hollol newydd i fyd ffasiwn ddoe. Dewch i gael gafael ar ddillad unigryw â’i hanes ei hun, cyfoethogi eich wardrob, a gwisgo ar y naw yn gynaliadwy!

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi i Aberystwyth fis Medi! Bydd ein tudalen yn cael ei diweddaru gyda chyngor, digwyddiadau a blogiau rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn academaidd. Dilynwch ni ar @UMAberSU