Event

Wythnos RAG

Mae’r wythnosau Codi Arian a’i Roddi (wythnos RAG) yn fenter codi arian a arweinir, am y rhan fwyaf, gan glybiau chwaraeon, cymdeithasau a grwpiau gwirfoddoli. Mae’n seiliedig ar addewidion UMAber i’ch cefnogi i fod yn iach ac yn hapus ac i fod yn ddylanwad cadarnhaol.


Wythnosau RAG

Pan roddir wythnos gyfan i grwpiau myfyrwyr godi arian. Mae rhai grwpiau yn trefnu un digwyddiad mawr, gyda rhai yn rhedeg rhywbeth bob dydd, a grwpiau eraill yn cydweithio gydag eraill a rhai grwpiau, ar y llaw arall, yn ei gwneud hi’n annibynnol – does dim ffordd gywir neu anghywir o fynd ati i gynnal wythnos RAG, cyhyd â’ch bod yn cael hwyl ac yn codi arian dros achos da!

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi i Aberystwyth fis Medi! Bydd ein tudalen yn cael ei diweddaru gyda chyngor, digwyddiadau a blogiau rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn academaidd. Dilynwch ni ar @UndebAber