Event

Cwrdd a Chyfarch y Menywod

Ar agor i unrhyw un sy'n uniaethu fel menyw neu berson sy'n uniaethu â bod yn fenyw

Cyfle gwych i gwrdd â phobl sy'n debyg i chi yw digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch. Yn y digwyddiad anffurfiol ei naws ceir snacs a diodydd a'r cyfle i gymysgu.

Fe gewch hefyd wneud arwydd drws ar gyfer eich ystafell!

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi i Aberystwyth fis Medi! Bydd ein tudalen yn cael ei diweddaru gyda chyngor, digwyddiadau a blogiau rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn academaidd. Dilynwch ni ar @UndebAber