Y Tîm Croeso

Mae'r Desg Groeso ar agor yn ystod y tymor rhwng 9.30yb - 5:000yh ar Ddydd Llun i Ddydd Iau ac 9:30yb - 4:30yh ar ddydd Gwener.

Yn ystod gwyliau'r brifysgol mae ar agor rhwng 10:00yb - 3:00yh o ddyd Llun i ddydd Gwener.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu angen cyngor ac yn ansicr o'r lle cywir i fynd yna galwch heibio i Dderbynfa'r Undeb sydd wedi ei lleoli wrth ochr prif fynedfa Undeb Myfyrwyr Penglais. 

Mae gennym ni domen o wybodaeth, rhai pethau'n fwy defnyddiol nag eraill. Os na allwn ni roi ateb i chi, fe a ddown ni o hyd i rywun sy'n gallu!

Gwasanaethau

Cardiau BWS

Teithiwch ar fysiau Mid Wales yn Aberystwyth.

Gwell i’r amgylchedd!
Gwell i’ch waled!
Gwell i’ch traed!

Eleni mae Mid Wales Travel yn cynnig Cardiau Teithio i Fyfyrwyr. Os hoffech chi archebu un o’r cardiau yma, mae modd prynu’r ddau gennym ni o dderbynfa Undeb y Myfyrwyr ar ddechrau’r tymor.

Archebu Ystafelloedd a Stondinau

Os ydych chi’n aelod o un o glybiau neu gymdeithasau’r Undeb ac yn awyddus i gynnal cyfarfod yna beth am holi os yw’r ystafell bwyllgor neu’r ystafell gyfarfod yng nghefn yr Undeb ar gael?


Os ydych chi’n cynnal gweithgaredd ac yn awyddus i’w hysbysebu, angen nawdd, eisiau mwy o aelodau neu’n awyddus i amlygu’ch hun i’r myfyrwyr yna fe allwch chi wneud hyn drwy gael stondin yng nghyntedd yr Undeb neu wrth y Siop.

D.S Fe fydd rhaid i sefydliadau gwahanol gysylltu â Matt Lukasiak mul8@aber.ac.uk.

Eiddo Coll
Os collwch chi unrhyw eiddo yn adeilad Undeb y Myfyrwyr yna fe fydd yn cael ei gadw’n ddiogel yn y Dderbynfa. Os oes rhywbeth yn datgan eich enw ar yr eiddo, megis cerdyn credyd neu gerdyn bws, yna fe fyddwn ni’n anfon e-bost atoch i’ch hysbysu ein bod wedi dod o hyd iddo. Os nad yw’ch enw ar yr eiddo fe fyddwn yn ei gofnodi ar y basdata, os gwelwch yn dda holwch yn y dderbynfa os credwch eich bod wedi colli unrhyw beth i mewn yn yr adeilad.