
Beth bynnag yw'r rheswm - mae llawer o fyfyrwyr yn aml yn aros yn Aberystwyth dros egwyl y Nadolig. Er mwyn osgoi'r unigrwydd rydyn ni wedi llunio'r rhestr ddigwyddiadau yma yn ogystal â rhestr cysylltiadau defnyddiol.
Rydym hefyd wedi creu grwp Facebook fel y gallwn rannu diweddariadau lleol o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod yr egwyl, yn ogystal â rhoi cyfle ichi drefnu cyfarfod gyda myfyrwyr eraill os ydych chi eisiau!
UMAberSU Amserau Agor: Yn Aber dros Gaeaf 2021
DIGWYDDIADAU
Bagiau o Bethau Da y ‘Dolig
Ydych chi’n aros yn Aberystwyth dros y Gaeaf? Mae’r UM yn trefnu rhoi bagiau o bethau da ac anrhegion at ei gilydd AM DDIM ar gyfer myfyrwyr i’ch adlonni a’ch cadw’n brysur gyda thritiau dros gyfnod y gaeaf. Cofrestrwch drwy lenwi ein ffurflen ar-lein i adael i ni wybod yr hoffech chi un o’r bagiau hwn.
Cardiau Nadolig
Lledaenwch ychydig o lawenydd dros y gwyliau trwy anfon cerdyn cyfarch at rywun annwyl unrhyw le yn y byd. Mae cardiau gael i'w casglu yn nerbynfa’r UM rhwng 10am - 4pm yn ystod yr wythnos.
Stondin y Gwyliau
Bydd eich Swyddogion UMAber yn cynnal stondin gaeafol gyda mins peis a diodydd poeth ar y campws rhwng 12fed-17il o Ragfyr.
Coeden y Cofio
Rydyn ni’n gosod coeden Nadolig yn y dderbynfa er cof y rhai rydyn ni wedi colli. Rhowch dag enw ar y goeden i’w cofio.
Newyddion
Student Space
Yn yr adran hon, gallwch ddod o hyd i erthyglau amrywiol i'ch helpu i feddwl am ddiwedd y tymor, cynllunio ar ei gyfer a'i reoli.
Gwneud y gorau o'ch amser gartref
Os ydych chi'n mynd adref ar gyfer y Nadolig ond ddim eisau
Aros yn y brifysgol dros wyliau'r Nadolig
Need Support?