Yr Heriwr


Beth yw UMCA  |  Digwyddiadau UMCA  |  Clybiau a Chymdeithasau  Yr Heriwr  |  Cyfansoddiad 

 

Diwedd y Flwyddyn

Yn gyntaf fe hoffwn ddiolch i chi gyd am fod yn aelodau ffab o UMCA eleni, mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner! Sawl uchafbwynt ac ambell i her ar hyd y ffordd, ond dwi wedi cael blwyddyn bythgofiadwy, felly diolch.

Dwi’n gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r flwyddyn gymaint a minnau, yn bersonol dwi’n meddwl mai’r Eisteddfod Ryng-gol oedd yr uchafbwynt – a hefyd y poendod mwyaf! Mi wnaeth pawb a fuodd yn cystadlu mewn unrhyw ffordd yn wych, a dwi’n hynod o falch o bob un. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur rhwng bob dim o Wythnos y Glas i Wythnos Hwyl yr Wyl, o Ail Wythnos y Glas i Wythnos RAG. Diolch i bawb am gymryd rhan ac am ymrwymo i UMCA 100 y 100.

Mae holl gymdeithasau UMCA wedi gwneud yn wych eleni hefyd, mae Aelwyd Pantycelyn yn mynd o nerth i nerth ac wedi llwyddo i ddod yn 2il yng nghystadleuaeth y Cor Merched yn Eisteddfod yr Urdd, mae’r gwersi Cymraeg yn hynod o boblogaidd ac mae’r Geltaidd mor wyllt ac erioed. Fasa UMCA yn ddim byd hebddo chi, felly diolch i’r arweinwydd, swyddogion a chapteiniaid.

Wrth i fy mlwyddyn ddod i ben dwi’n falch o ddweud fod y gwaith ar Pantycelyn bellach wedi dechrau ac ar y trywydd cywir i agor erbyn Medi 2020. Mae gen i bob ffydd yn Tomos a’r pwyllgor nesaf i barhau gyda’r gwaith o sicrhau fod cartref UMCA yn agor mewn pryd. A diolch enfawr i’r pwyllgor eleni am eu holl gymorth ar hyd y flwyddyn. Pob lwc i chi gyd y flwyddyn nesaf, boed hynny o fewn UMCA neu yn byd mawr tu allan, a cofiwch ddod nol yn ystod Hasbins i ddweud helo!

Anna

Llywydd UMCA 2018-2019

 

 

CyfCyff

Cafodd Cyfarfod Cyffredinnol cyntaf y flwyddyn UMCA ei gynnal ym Medrus ar ddydd Mawrth y 9fed o Hydref. Cafodd dau aelod newydd o Bwyllgor UMCA eu hethol yno – Cara Rogers fel Swyddog Addysg a Anna Wyn Jones (Queens) fel yr ail Swyddog RAG. Croeso i’r tîm lads! Etholwyd tri aelod newydd i Senedd UMCA hefyd, sef Emily Bennett fel cynrychiolydd Fferm Penglais, Gruffudd Madoc-Jones fel cynrychiolydd Penbryn a Ifan Samuel (Tymbl) fel cynrychiolydd Tref.

Yn y cyfarfod hefyd fe bleidleisiodd pawb am liw crysau’r ddawns Rhyng-gol fydd yn digwydd mis yma erbyn hyn. Dydw i ddim am gyhoeddi be ydi’r lliw ond yr unig beth dduda i ydi bod o’n curo’r lliw oren oedd gyno ni llynedd!

Trip Tregaron

Heledd Davies, Blwyddyn 1af

‘Chydig o wythnose ar ôl wsnos y glas, ddoth hi’r amser i ni fel freshers brofi’n Trip tregaron cynta. Cyfle i ni gael noson yng nghwmni gweddill Umca ond mewn lleoliad gwahanol iawn i Aber. Tri llond bus yn barod i ‘dorri fewn i Dregaron’. Fel freshers odden nim yn siwr iawn be i ddisgwyl o wybod fod angen i dros gant a hanner wasgu i mewn i dri neu pedwar tafarn bach. Cychwyn yn y clwb rygbi a mynd ymlaen o dafarn i dafarn cyn gorffen noson prysura’r flwyddyn i Dregaron yn Talybont. Erbyn deg oddin amser i ni orffen noson dda yn ôl yn Llew a freshers i gyd yn edrych mlaen am noson cystal eto y flwyddyn nesa’ yn Tregaron.

Marged Smith, 2il Flwyddyn

Daeth yr amser eleni eto i ni fynd ar y trip blynyddol i Dregaron, sydd bob tro yn addo i fod yn noson dda. Fel aelod o'r Ail flwyddyn, fe wnes i fwynhau y noson yn fwy na beth nes i llynedd, gan fy mod yn gwybod y drefn a beth i ddisgwyl. Ar ol y daith bws llawn miri a chanu aeth bawb i'r clwb rygbi ac yna ymweld a phob dafarn yn ei thro cyn gorffen ein hymweliad yn y Talbot. Am 10 o'r gloch gwagiodd pawb y dafarn a mynd nol i Aber i orffen y noson yn yr Hen Lew Du.

Alun Williams, 3ydd Flwyddyn

I ddechra’, dwi’n meddwl y bysa hi’n  syniad da ymddiheuro wrth drigolion Tregaron am y noson wyllt wirion ‘na sy’n digwydd yn flynyddol. Er bod y tafarnwyr yn rhwbio’i dwylo wrth weld tri llond bws o UMCA yn barod i yfad y lle’n sych, mae’n debyg bod pawb arall yn cloi eu drysa a chuddio, felly sori. Hwn oedd y trydydd tro i mi dorri fewn i Dregaron ac mae’n sicr bod y profiad yr un mor hwyliog pob tro. Dilyn plan gwahanol wneshi leni, a hynny drwy aros yn y Talbot drwy’r nos yn gwylio’r gêm bel droed. Roedd na lawar o bobl wedi meddwl gwneud yr un fath (diogrwydd stiwdants mae’n siwr). Erbyn diwedd y gêm roedd y dafarn yn llawn a phawb mewn hwyliau golew. Roedd hi fel bod yn y Llew Du ar ddiwedd noson, heblaw bod y toiledau’n lanach a dim cystal miwsig wrth gwrs. Mi roedd hi’n noson lwyddianus tu hwnt, a dwi’n siwr bod pawb wedi cael mwynhad mawr o’r daith. Fe welwn ni chi yno yn ystod haf 2020 felly.

Swn

I’r rhai ohono chi sy’ ddim yn gwbod be ‘di Swn, yn syml iawn noson Gymraeg yn yr Undeb ydi o, lle ma’ UMCA i gyd yn gwisgo fyny i thema gwahanol. Rhai o’r classics sy’n cal pawb i gychwyn dawnsio a canu nerth eu penna pob tro, fel Cae Llawn o Yd, Hawl i Fyw a wbath gan Bryn Fôn (amsar symyd ymlaen rili dydi bois). Thema swn cynta’r flwyddyn oedd Y Gofod. Fel allwch chi ddychmygu oedd ‘na ambell i alien a gofodwyr o gwmpas y lle (llongyfs i Catrin, Ffion a Teleri y tri alien nath ennill swn btw). Rhai o’r syniadau eraill gafodd rhai o’r criwia’ oedd mynd fel cymeriadau Planed Plant Bach, a Swper Ted yn benodol. Cyn pob swn mae ‘na Barti Pwnsh yn nhy rhywun o’r drydedd neu ail flwyddyn yn y dre.  Frondeg oedd y ty digon dewr i gynnal y Parti Pwnsh cynta’ ond dwi’n meddwl bodi’n ddigon teg i ddeud ath pob dim yn ddigon smooth i feddwl mai’r Parti Pwnsh cynta’ oedd o!.. gobeithio be bynnag.

Ma’i ‘di bod yn fis eithaf prysur i UMCA rhwng pob dim – a mis reit hir i fi a Megan sy’ ‘di bod yn neud Sychdref. Fysa ni’n licio cymyd y cyfla yma i ddeud diolch eto i bawb nath gyfrannu neu rhoi cymorth i ni mewn unrhyw ffordd! £465 wedi’i godi at Macmillan sy’n swm anhygoel i feddwl bo’ ni ond wedi anelu at £150. ‘Lly diolch diolch diolchhhh i chi gyd!!

- Gwenno Nefydd xox


Wythnos y Glas arall wedi dod i ben – a dyna i chi wythnos oedd hi! I fi’n bersonol dwi’n falch mod i ‘di neud y mwya o’r holl wythnos blwyddyn yma wrth fynd i pob dim oedd UMCA’n ‘i gynnig. Nes i ddim llynadd, a dwi’n difaru lot. ‘Lly blwyddyn nesa, i chi ath ddim i pob dim tro ‘ma, plîs plîs pliiis trïwch wneud y mwyaf o wythnos y Glas – does na’m rhaid i chi yfad pob nos cofiwch!

Uchafbwynt yr wythnos i mi heb os nac oni bai oedd y Gig Gomedi efo’r Welsh Whisperer yn cyflwyno. Dwi’m yn un sy’n hoffi gwylio stand-up fel arfer ond oedd y noson yma wirioneddol yn anhygoel, dwi’m yn meddwl nes i sdopio chwerthin trwy’r nos!

Felly, i’r rhai ohono chi sy’ mwy na thebyg ddim yn cofio be ddigwyddod trwy’r wythnos, dyma i chi recap sydyn o beth ddigwyddodd;

Symud i Fewn

Pob blwyddyn mae ‘na griw o UMCA yn helpu’r Glasfyfyrwyr symud i fewn i’r llety Cymraeg sydd ar y campws, a doedd y blwyddyn yma ddim gwahanol i’r blynyddoedd cynt. Daeth criw o bwyllgor UMCA a’r Geltaidd at ei gilydd er mwyn gwneud yn siwr fod y glasfyfyrwyr yn teimlo’n gartrefol wrth symud fewn, ac i wneud yn siwr ein bod ni’n tawelu eu meddyliau cyn yr wythnos fawr oedd o’u blaenau...

Parti Pwnsh

Dyma oedd noson gynta’r wythnos, lle ma’r glasfyfyrwyr yn cerddad fewn i’r Llew Du yn cachu’i hunan gan fod yr ail a’r drydedd flwyddyn yna’n syllu arnyn nhw’n cerddad fewn (neu o leiaf oedda ni llynadd yn cachu brics de). Y noson yma ma’r freshyrs i gyd yn mynd at y bar ag yn ordro peint o Bwnsh Llew heb sylweddoli bod o actually’n blasu’n afiach (sori Llew ly x). Noson o gymdeithasu ag i bawb gychwyn dod i nabod ei gilydd oedd hi, ac wrth gwrs i ddangos i’r freshyrs be i yfad yn y tafarndai.

Taith Groesawu

Y Daith Groesawu oedd cyfle cyntaf y glasfyfyrwyr i gael gweld yn union sut ma’ teithiau tafarndai UMCA’n gweithio (crol i chi a fi, ond dyda ni’m yn ca’l galw nhw’n hynny dyddia yma...). Dwi’n siwr bod na’m llawar ohono chi’n cofio’r noson yma, mwy na dw i rili, ond nathi laff do. Dwn  im be sy’ na i ddeud am y crol yma, ond dwi’n siwr fod pawb wedi dod i nabod ei gilydd lot gwell (a gormod) drwy chwara’ gema fel never have I ever, ffeithia afiach/diddorol ayyb.

Carioci

Noson carioci UMCA – lle ma’ rhai o’r drydedd flwyddyn wedi ca’l chydig bach gormod i yfad a’n meddwl bo nhw’n rw fath o Beyonce pan ma’ nhw’n ca’l gafal ar y meic. Ma’n digwydd o hyd, a nath tro ‘ma ddim siomi. Oedd hi’n neis gweld fod pawb wedi treulio bron iawn i’w noson gyfan yn Llew y noson honno, a fod pawb yn canu a joio efo’i gilydd. Ella bod angan gwersi canu ar amball i berson at flwyddyn nesa er hynny...

Taith Teulu

Y Daith Teulu ydi lle’r oedd y freshyrs i gyd yn cael eu cyfri fel babis, yr ail flwyddyn yn rieni, a’r drydedd flwyddyn yn neinau a teidiau. Ar y daith es i rownd efo oedd y freshyrs i gyd yn gorfod gwisgo napi ar eu pennau a gafael mewn wy gan wneud yn siwr nad oeddo’n torri – neu oedd na gosb!

Gig Gomedi y Glas

Fel nes i ddeud ar y cychwyn – hon i mi oedd noson ora’r wythnos. Ar y noson roedd y Welsh Whisperer yn cyflwyno Dan Thomas, Steffan Evans ac Esyllt Sears. Noson absolwtli hileriys! Odd y ‘stafell yn Llew yn llawn dop, efo pobl yn sefyll yn y cefn hyd yn oed. Gobeithio gawni fwy o nosweithia fel yma efo UMCA – noson eitha chill mewn llond stafell o bobl hapus!!

Taith Teircoes

Er fod enw’r noson yn awgrymu fod pawb yn mynd o amgylch tafarndai fel eu bod yn rhedeg ras teircoes ym mabolgampau blwyddyn 4 ysgol gynradd – nid fela oedd hi. Oedd pawb wedi clymu eu breichiau efo’i gilydd yn lle (health and safety de). Oedd y busnas clymu braich efo’i gilydd yn all fun and games tan oedd na rhywun yn penderfynu dod a’r rheol ‘ond yfad efo’r llaw chwith’ allan. O’ ni’n teimlo fatha rw byped yn codi fy mraich fyny fatha dwn im be.

Y Cwis Mawreddog

Cafodd y noson yma ei chynnal hefyd yn y Llew Du (shocker). Oedd pob bwrdd yn Llew yn llawn, ag oeddi’n neis gweld lot o bob blwyddyn wedi troi fyny. Roedd ‘na bump gategori gwahanol yn y cwis – chwaraeon, gwybodaeth cyffredinol, dyfalu pwy ydi’r seleb o’r llunia ayyb. Roedd hi’n noson llwyddiannus iawn, a llongyfarchiada’ i griw o’r freshyrs nath guro’r cwis (dwi ddim yn bitter o gwbl fod na griw o freshyrs ‘di ennill... ddim o gwbl.)

Penwythnos Hasbins

Dros y penwythnos yma ma’ hen aeloda’ UMCA’n dod nôl i Aber i gal penwythnos o yfad a gweld pawb. Oedd blwyddyn yma’n wahanol i llynadd i fi achos llynadd do ni’m yn rili nabod neb o’r hasbins oedd yn dod yn ôl. Ond blwyddyn yma  o ni’n nabod a’n ffrindia efo rhai o’r hasbins, ‘lly oedd hi’n neis ca’l gweld pawb unwaith eto!

Felly dyna chi – Wythnos y Glas UMCA 2018. Nes i ddeud mai recap sydyn oedd hwn am fod ond dw i ‘di ‘sgwennu mwy i’r blog yma na nes i i rhai o’n nhraethoda llynadd dwi’n meddwl. Gobeithio bo’ chi ddim yn syffro gormod o freshers flu, a bod yr wythnos gynta o ddarlithoedd ddim rhy hegar arna chi. Welai chi.

- Gwenno Nefydd xox


 

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru mae UMCA wedi creu dogfen yn edrych ar y sin cerddorol byrlymus sydd i’w gael yn yr Undeb Myfyrwyr Cymraeg gyntaf yng Nghymru. 

Mae’r Gymdeithas Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn ganolog i ddatblygiadau cerddoriaeth yng Nghymru ers y dechrau gyda bandiau cynnar o’r 60au a 70au’n fyfyrwyr megis Y Blew a Mynediad am Ddim. Dyma Linda Griffiths yn sôn am ei phrofiadau hi’n fyfyriwr ar ddiwedd y 70au

Pan ddechreuais i yn y coleg yn Aber (1976) roedd Plethyn newydd sefydlu ac roedd hi’n ddyddie cynnar arnon ni.  Doeddwn i ddim yn rhan o’r sin gerddorol yn Aber tra ro’n i yn y flwyddyn gynta ac yn byw ym Mhantycelyn (roedd yna gôr Cerdd Dant llwyddiannus iawn ym Mhanty ar y pryd).  Diffyg hyder ar fy rhan i oedd yn gyfrifol am hynny.

 Yn yr ail flwyddyn des i nabod Myrddin ap Dafydd, oedd hefyd yn Aber ar y pryd.  Dechreuodd hwnnw sgwennu geiriau i Plethyn ac mi wnaeth y cysylltiad pwysig hwnnw wahaniaeth mawr i ni fel grwp.  Mi fu Plethyn yn canu yn yr Angel nifer o weithiau a myfyrwyr oedd y gynulleidfa bron yn ddieithriad yn y nosweithiau hynny. Roedden nhw’n nosweithiau gwyllt! Yn yr Angel neson ni ganu caneuon ‘Cân i Gymru’ yn 1980 (ro’n i yn y Coleg yn Llanbadarn bryd hynny).  Roedd y noson yn cael ei darlledu’n fyw ar Radio Cymru ac erbyn diwedd ‘Tân yn Llyn’ roedd y myfyrwyr yn canu efo ni!   
Roedd yna fwrlwm cerddorol yn Aber ar ddiwedd y 70au ac yn raddol, mi ddois i’n rhan ohono.  Erbyn yr ail flwyddyn ro’n i’n canu ac yn cystadlu efo criw myfyrwyr Aber, fel unigolyn ac fel aelod o gorau, partion, a’r criw Noson Lawen. 
Mi roddodd y pethau hyn fwy o hyder i mi ac mi roddodd fy nghyfnod fel myfyriwr yn Aber  hwb mawr ymlaen i mi  fel cantores ac fel person.”

Dyma Neil Rosser yn esbonio rhai o nosweithiau mwyaf gwyllt tra'n fyfyriwr rhwng 86 - 89!

"Roedd Aber yn le gwych i fod yn fyfyriwr yn y cyfnod yma.

Roedd yna gigs cyson mewn lleoliadau fel Y Cwps, Cefn yr Angel, Y Llew Du a’r Neuadd fawr. Dechreuodd label Ankst mewn ystafell ar yr ail lawr yn Pantycelyn a chafodd y deunydd cyntaf y cwmni recordio eu ryddhau yn ystod y cyfnod.

Yn bersonol top y cwps oedd fy hoff leoliad am gigs. Roedd fel arfer dan i sang ar gyfer gigs Cymraeg. Roedd y ffaith fod yr ystafell wastad yn rhy llawn yn golygu bydde colli dant drwy gael meic yn eich chops wrth i fyfyriwr meddw crasho mewn i’r llwyfan yn bosibilrwydd cryf.
Nid oedd reolau iechyd a diogelwch yn bodoli i’r fath raddau. Roedd yna un noson pan oedd pobl oedd yn methu cael mewn i top y cwps  yn cael eu llusgo lan o’r palmant gan ffrindiau oedd yn hongian mas o ffenest llawr cyntaf y dafarn. Peryglus iawn a boncyrs ond wy’n meddwl oedd pawb yn iawn.
Dyddie da iawn. Falch i ddod drwy’r holl beth yn weddol iach."

 
Agwedd sydd wedi bod yn hanfodol i glywed cerddoriaeth fyw yn Aberystwyth yw lleoliadau lle mae modd cynnal gigs ar draws y dref. Mae nosweithiau yn y lleoliadau wedi aros yng nghof sawl cyn-fyfyriwr. Mae Rhodri Llwyd Morgan o’r band Cerrig Melys yn esbonio bwrlwm cerddorol  yn y dref  ar ddechrau’r 90au

 “Roedd y cyfnod yn Aber yn ddylanwad mawr.  Er taw yn yr ysgol y sefydlwyd y band yn wreiddiol, daeth dau o’m cyd-fyfyrwyr yn aelodau ac roedd y dyddiau coleg yn rhai gweithgar a llawn cynnwrf i’r grwp.  Roedd llawer o’r cyffro yn deillio o’r profiad o wneud cymaint o ffrindiau newydd o bob rhan o Gymru a hwythau â phrofiadau amrywiol iawn o’r Sîn Gymraeg.  Fe ddaeth cerddoriaeth Gymraeg yn rhywbeth cwbl ‘normal’ mewn ffordd a oedd yn anodd ei ddychmygu fel person ifanc yn tyfu lan yn ardal Aberteifi.  Roedd gigs Cymraeg a nosweithiau disgo(!) yn digwydd yn gyson mewn lleoliadau amrywiol iawn – lan llofft yn y Cwps, yr Angel, Clwb yr Ysbyty, neu Undeb y Myfyrwyr – ac roedd y dewis helaeth o recordiau Cymraeg ar jiwcbocs y Llew Du yn dipyn o ryfeddod, heb sôn am bosteri enwog y Cwps. 

Nid ar hap y cafwyd hyn, wrth gwrs, ond trwy ymdrechion UMCA ac o ganlyniad i frwdfrydedd afieithus myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.  Maes o law fe werthfawrogais hefyd fod y sîn yn cynrychioli dolen gyswllt hynod bwysig rhwng y coleg a chymuned y dref – roedd y gigs Cymraeg yn ffordd effeithiol tu hwnt o gynnwys pawb ac o hybu Cymreictod cynhwysol ymhlith y to ifanc yn enwedig, yn Gymry Cymraeg neu’n ddi-Gymraeg.”

Un adeilad a gafodd cryn ddylanwad ar sawl a fuodd yn aelod o UMCA  oedd Neuadd Pantycelyn. Mae hyn yr un mor wir ar artistiaid a breswyliodd yn y Neuadd. Roedd Griff Lynch yn gyn-breswyliwr sef aelod Yr Ods band a ddechreuodd yng nghoridorau Pantycelyn a hyd heddiw yn un o brif fandiau Cymru

“Bu i mi ysgrifennu sawl can tra'n byw ym Mhantycelyn. Mae yna awyrgylch gynnes sy'n ymlacio'r synhwyrau yno, sy'n caniatau pobl i fod yn greadigol. Roedd yna gymaint o fynd a dod, a chymuned glos yno, a'r atgofion yn glir. Mewn gwirionedd mae'r gân Fel Hyn am Byth, yn ceisio ymgorffori'r teimladau hynny o hwyl bywyd Pantycelyn.”

Esbonia Lewys Wyn, prif leisydd Yr Eira a raddiodd yn 2016,  ymhellach bwysigrwydd Pantycelyn i’w ddatblygiad cerddorol.

“Wrth adael adref, ym Mangor, am Aberystwyth ym mis Medi 2013 roeddwn yn ymwybodol o'r deunydd cerddorol oedd wedi dod allan o'r coleg yn Aberystwyth ac o Bantycelyn yn fwy penodol. Roeddwn hefyd, eisioes yn aelod o fand o'r enw'r Ayes a'r Eira, ond dwi'n ystyried Aberystwyth fel y lle neshi fagu gwir ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Dwi'n cofio mynd hefo'n amp lawr i'r lolfa hefo chydig o bobl erill oedd yn chwara' gitar, mi odda ni yna am oria yn malu cachu ac yn 'jamio'. Mi odd natur Pantycelyn yn gneud petha felma'n bosib. Ma Aber hefyd yn cael lot o sylw mewn geiria chydig o ganeuon yr Eira hefyd, yn enwedig 'Pan Na Fyddai'n Llon'. Ma'r golygfeydd a'r profiada dachi'n fagu yna yn ddigon i wneud deunydd ar gyfer albym”

Fe soniai Lewys am ddylanwad Aberstwyth ar eiriau rhai o’i ganeuon. Gweler fod hyn yn ddylanwad cyson ar artistiaid oedd yn aelodau o UMCA, fel noda Iolo Jones prif leisydd Ysgol Sul

“Yn amlwg roedd Aberystwyth yn ddylanwad mawr ar yr hyn oeddwn yn cyfansoddi pan oeddwn i’n fyfyriwr. Dwi’n siwr bod y dref wedi ysbrydoli nifer o gerddorion Cymreig yn y gorffennol a bydd yn parhau i ddylanwadu cerddoriaeth Gymraeg yn y dyfodol. Mae UMCA bob tro wedi bod yn gefnogol o gerddoriaeth Cymraeg, yn fwy nag undebau myfyrwyr colegau eraill gallech chi ddadlau. O’r Cwps i’r undeb, mae UMCA wedi bod yn gyfrifol am drefnu nifer o’r gigiau dwi wedi mwynhau chwarae fwyaf yn Aberystwyth.”

Esboniai Gwyn Rosser, prif leisydd Tymbal a Los Blancos sy'n esbonio yr amgylchedd cerddorol oedd yn UMCA

"Roedd natur aber fel lle yn golygu fod yna amrywiaeth o bobl cerddorol yn gallu dod i gyfarfod a cymdeithasu gyda'i gilydd. Trwy gymysgu gyda’r pobl gwahanol yma roedd golygu bod fi’n clywed cerddoriaeth gwahanol pob dydd. Odd adeg lle o ni’n gwrando ar cerddoriaeth byse ni byth di meddwl gwrando ar, odd hwnna achos y pobl o ni wedi dod i gwrdd gyda yn Aberystwyrh."

Hyd Heddiw mae aelodau UMCA yn creu a pherfformio cerddoriaeth fyw. Mae fel petai cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol myfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda bandiau ac artistiaid newydd yn dal i'w gweld yn Aberystwyth. Un ohonnyn nhw yw Gwern ap Gwyn sy’n aelod o fand o fyfyrwyr UMCA, Mosco. Mae'n rhoi llawer o'r diolch i ddatblygiad y band i'w gyfnod ym Mhantycelyn

“O genhedlaeth i genhedlaeth mae Pantycelyn wedi llwyddo dod a cherddorion at ei gilydd i greu cerddoriaeth o bob math. Mae ei ddylanwad ar y sîn roc Gymraeg yn chwedlonol ac mae'n anrhydedd i wbod ein bod wedi profi effaith yr adeilad hanesyddol ar fyd cerddoriaeth Cymraeg.”

Dyma restr fer o artistiaid eraill daeth i'r amlwg tra'n aelod o UMCA:
Trwynau Coch
Chwarter i un

Siencyn Trempyn
Eryr Wen
Y Diawled
Doctor
Geraint Lovegreen
Neil Rosser

Ysbryd Chouchen
Hufen Ia Poeth
Vanta
Catrin Herbet
Tymbal
Casset

{page_content}