Digwyddiadau UMCA
Beth yw UMCA | Digwyddiadau UMCA | Clybiau a Chymdeithasau | Yr Heriwr | Cyfansoddiad

Wythnos Nefi Blw

Wythnos RAG
Wythnos RAG yw wythnos ble bydd aelodau UMCA yn codi arian i elusen trwy ddigwyddiadau gwahanol. Mae rhestr digwyddiadau'r wythnos i'w gweld isod.
Digwyddiad Facebook

Ail-Wythnos y Glas
Y flwyddyn yma oedd y tro cyntaf i ni gael Ail Wythnos y Glas, ac fe roedd hi’n wythnos wych! Digon o chwaraeon cymysg a nosweithiau Swn yn Yokos, roedd hi yn bendant yn wythnos i’w chofio. Dyma rai o luniau 2018.
2018

2019
Digwyddiad Facebook
Dydd Llun / Nos Lun: Ffair yr Undeb + Gêm Bêl-Rwyd Cymysg / 7:30pm / Y Gawell
Nos Fawrth: CyfCyff / 6:00pm / Yr Hen Goleg + Noson y Geltaidd
Dydd Mercher / Nos Fercher: Training Rygbi Merched + Noson Gwaith Cartref / 7:00pm / Llew Du
Nos Iau: Swn Dim dimau (2000s) / 10:00pm / YOKOS

Yr Eisteddfod Ryng-gol
Dyma benwythnos lle mae criw UMCA yn mynd ar daith i gystadlu yn erbyn Prifysgolion eraill. Y flwyddyn diwethaf, Llanbed oedd y lleoliad, un o'r Eisteddfodau gorau ers blynyddoedd. Fe lwyddodd Aber i ennill sawl cystadleuaeth gan gynnwys y Fedal Gelf diolch i Non! Ac er mai Bangor enillodd yr Eisteddfod, UMCA enillodd y penwythnos!
2018

2019
Mae'r Eisteddfod eleni yn Abertawe, dyma'r digwyddiad Facebook
Mawrth 1af ac 2il
Gyrrwch e-bost i umca@aber.ac.uk i gael testunau

Wythnos Hwyl yr Wyl
Cyngerdd Nadolig Aelwyd Pantycelyn 9/12/18: Capel y Morfa 5yh
Eisteddfod Dafarn 10/12/18: Llew Du 70:30yh
Gloddest 11/12/18: Marine 6:30yh £20
Noson Jymprs Dolig 12/12/18
Swper Geltaidd a Swn 13/12/18

Wythnos y Glas 2018


Trip Tregaron
Trip draw i Tregaron am y noson cyn dod nol i Aber i orffen yn y Llew Du. Noson ychydig yn wahanol i'r arfer i ddechrau blwyddyn arbennig.

Swn
Noson Gymraeg yr Undeb ble mae pawb yn gwisgo fyny i themau penodol, yn y gorffennol rydym wedi cael y 90au, Yn y Newyddion ac Anifeiliaid. Bydd digon o ganeuon Cymreig, clasuron ac rhai newydd sbon, a digon o hwyl. Nos Iau olaf pob mis!
Bydd drysau yn agor am 10yh a cau am 11yh, £3.50 i aelodau £4.00 i bawb arall. Cofiwch roi eich lluniau i fyny i'r Llywydd gael dewis enillydd.










Y Ddawns Rhyng-gol
2017
Digwyddiad sydd yn cael ei gynnal yn Aber bob blwyddyn gyda gig yn yr Undeb ar y nos Sadwrn. Mae myfyrwyr Cymraeg ledled y wlad yn teithio i Aber ar ei gyfer gyda tua 900 yn mynychu gyda’r Eira yn hed-leinio y flwyddyn diwethaf, leni mae gennym ni Candelas!

2018

Wythnos Nefi Blw
Dyma wythnos sydd yn cloi blwyddyn UMCA. Wythnos o ddathlu diwedd arholiadau, ffarwelio â’ch ffrindiau ond hefyd, ffarwelio â’r drydydd flwyddyn. Gyda digwyddiadau fel Crôl beniwaered, Double Denim y Geltaidd, Trip Traeth a Swn olaf y flwyddyn (byddwch yn barod am unigolion emosiynol iawn)!