Cadw mewn Cysylltiad

Zoom

 

Mae Zoom yn wych ar gyfer cynnal galwad fideo gyda grwp mawr o bobl. Mae'n hawdd ei ddefnyddio, yn gyflym a does dim anfanteision. Gallwch naill wneud galwad am 40 munud gyda'ch cyfrif eich hun neu gysylltu â Lucie (leg13@aber.ac.uk) i gynnal galwad am gyfnod hirach, gan fod yr UM yn talu am gyfrif premiwm i chi ei ddefnyddio

I ddefnyddio Zoom:

  1. Ewch i zoom.us/signin a sefydlwch gyfrif
  2. Ar frig y dudalen, ar yr ochr dde, chwiliwch am 'Host a Meeting' a dewiswch 'With Video On'
  3. Bydd galwad fideo yn cychwyn a gallwch wahodd cyfranogwyr i'ch cyfarfod drwy anfon ID y cyfarfod neu ddolen i'r alwad
  4. Os oes gennych chi fwy nag un person yn ymuno, gallwch ddewis gwahanol opsiynau o ran yr hyn y gallwch ei weld (ar y dde - ar frig y dudalen), yn ogystal â gallu rhannu eich sgrin a sgwrsio

 

Discord

 

Mae Discord yn llwyfan poblogaidd ymhlith y rhai sy’n hoffi chwarae gemau. Mae'n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, rhyngweithio a chael tipyn o hwyl! Gallwch gyrchu Discord naill ai ar eich porwr neu ei lawrlwytho ar eich dyfais (Desktop/iOS/Android).

Dechrau arni

  • Ewch ati i greu eich cyfrif
  • Ymgyfarwyddwch â'r dyluniad; dyma'r adrannau mwyaf cyffredin:
    • Negeseuon Uniongyrchol
    • Rhestr Ffrindiau / Rhestr Sianeli
    • Rhestr aelodau
    • Bar chwilio bar ar frig y sgrin
  • Addasu eich cyfrif. Gallwch newid amryw o osodiadau, fel eich manylion, eich manylion preifatrwydd a diogelwch, cysylltu cyfrifon eraill (e.e. twitch, steam, a Spotify) a.y.b.

Cysylltu ag eraill

Ymunwch â gweinyddion: Dewch o hyd i weinyddion rydych chi am gymryd rhan ynddynt. Er mwyn ymuno â gweinydd, bydd angen i chi gael gwahoddiad iddo. Gall ffrindiau naill ai eich gwahodd yn uniongyrchol, neu os oes gennych chi ddolen i weinydd Discord, cliciwch ar honno.

Ychwanegwch ffrindiau: Gallwch ychwanegu pobl at eich rhestr ffrindiau. Unwaith y byddwch chi'n ffrindiau â phobl, gallwch eu galw'n breifat, ac maen nhw'n cael eu hychwanegu fel cyswllt yn eich negeseuon uniongyrchol.

Chat: Gellir defnyddio'r bar negeseuon i anfon neges at unigolion neu sianeli. Gallwch hefyd ddefnyddio Chat ar gyfer sgwrsio gyda'ch ffrindiau.

Galwad llais / fideo: Gan fod Discord ar gyfer y rhai sy’ch chwarae gemau’n bennaf, gallwch gael sgwrs a gwneud galwad fideo gyda phobl. Gwnewch yn siwr fod eich meicroffon a'ch clustffonau yn gweithio, yna dechreuwch yr alwad:

  1. I ffonio person unigol drwy neges uniongyrchol, bydd angen i chi fod yn ffrind iddo. Cliciwch ar yr eicon ffôn (neu'r eicon camera i wneud galwad fideo), ger eu henw.
  2. I ffonio sawl person mewn neges uniongyrchol ar gyfer grwp, cyrchwch DM y grwp a chliciwch ar yr eicon ffôn neu fideo.
  3. I sgwrsio gyda defnyddwyr ar weinydd, cliciwch ar y sianel llais rydych chi am ymuno â hi, a byddwch chi'n cysylltu â'r gweinydd

 

Skype

 

Mae Skype yn ap galwadau rhyngrwyd poblogaidd, ac mae'n un o'r ffyrdd hawsaf a rhataf o gadw mewn cysylltiad ag eraill ledled y byd.

Canllaw 'Sut i'

  1. Mae'n hawdd cychwyn arni - yn gyntaf bydd angen i chi lawrlwytho Skype naill ai drwy eich porwr neu ar ddyfais symudol (iOS/Android)
  2. Dewiswch sut rydych chi am fewngofnodi. Gallwch naill ai fewngofnodi gyda'ch cyfrif Facebook neu Microsoft presennol, neu gallwch greu cyfrif ar gyfer Skype yn unig.
  3. Nesaf, bydd angen i chi wirio a yw'ch offer sain a fideo yn gweithio, sefydlu'ch proffil personol, a newid eich llun proffil a'ch enw os oes angen.
  4. Mae gennych yr opsiwn i osod eich statws er mwyn gadael i'ch ffrindiau Skype wybod a ydych chi ar gael i sgwrsio. Gallwch ddewis statws (online, away, do not disturb, invisible neu offline) i arddangos wrth ymyl eich enw.
  5. Unwaith y byddwch chi yn Skype, byddwch chi'n gallu "Find your friends and say hello". Gallwch chwilio am eich cysylltiadau Skype yn eich llyfr cyfeiriadau gan ddewis "search address book" neu eu teipio â llaw drwy ychwanegu eu henw Skype neu e-bost.
  6. Negeseuon: i anfon a derbyn negeseuon gwib, cliciwch ar gyswllt yn eich rhestr a theipiwch yn y maes testun lle mae eich cyrchwr. Neu defnyddiwch y botwm “New Chat” i greu sgwrs newydd neu sgwrs grwp.
  7. Galwad Fideo: cliciwch ar y botwm "meet now”, gallwch naill ai wahodd unigolion, grwpiau neu anfon dolen at eraill.

 

Google Hangouts

 

Gellir defnyddio Google Hangouts i sgwrsio a gwneud galwadau. Mae Hangouts yn cysoni'n awtomatig ar draws dyfeisiau; os byddwch chi'n cychwyn Hangout ar eich cyfrifiadur, gallwch chi barhau â'ch sgwrs ar ddyfais arall, fel eich ffôn.

Gallwch gyrchu Hangouts naill ai ar eich porwr, neu ei lawrlwytho ar eich dyfais symudol (iOS/Android).

Gallwch naill ai gychwyn galwad fideo, galwad ffôn neu neges gydag unigolion / grwpiau drwy bwyso'r botymau cyfatebol.

 

WhatsApp

 

Mae WhatsApp yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a grwpiau. Cyn belled â bod gennych chi ffôn clyfar a'r rhyngrwyd, gall unrhyw un gymryd rhan yn hawdd ac yn gyflym. Lawrlwythwch yr Ap ar gyfer WhatsApp (iOS/Android).

Gallwch naill ai gychwyn galwad fideo, galwad ffôn neu neges gydag unigolion / grwpiau drwy bwyso'r botymau cyfatebol.

I greu grwpiau:

  1. Ewch i'r tab 'Chats'
  2. Dewiswch 'New Group'
  3. Chwiliwch am neu dewiswch gysylltiadau i'w hychwanegu at y grwp, ar ôl eu dewis, pwyswch 'Next'
  4. Rhowch enw pwnc i'r sgwrs, ychwanegwch lun a phwyswch 'Create’

 

Facebook Messenger

 

Mae Facebook Messenger yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad. Gellir ei ddefnyddio heb fod â chyfrif Facebook; cofrestrwch ar gyfer Messenger yn uniongyrchol. Gallwch naill ai ei gyrchu drwy'r porwr rydych chi wedi’i ddewis, neu lawrlwythwch yr ap Messenger (iOS/Android).

Yna gallwch naill ai anfon neges / ffonio unigolion, neu greu grwpiau:

  1. Ewch i’r ap
  2. Gallwch naill ai chwilio am unigolion / grwpiau yn y bar chwilio, neu dechreuwch neges newydd gydag unigolyn / grwp
  3. Unwaith y byddwch chi yn y sgwrs, gallwch chi anfon neges, ffônio neu fideo ffonio holl gyfranogwyr y grwp hwn 

 

Microsoft Teams

 

Mae Microsoft Teams yn ffordd wych i chi i gyd ddal ati i gyfathrebu, cynllunio a threfnu eich hunain. Gweler y canllawiau llawn yma ar gyfer yr holl bosibiliadau!

Chats

  • Mae'r rhain yn barhaus, felly os ydych chi wedi bod i ffwrdd mae'n hawdd sgrolio drwodd a dal i fyny.
  • Defnyddiwch Chats yn y gwahanol sianeli i gadw popeth yn berthnasol
  • Maent yn cynnwys dangosyddion gweledol fel @mentions, neu awydd coch i nodi pwysigrwydd uchel
  • Gall pawb yn y pwyllgor eu gweld mewn Chats tîm i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau (mae Chats preifat ar gael hefyd)

Cyfarfodydd Pwyllgor

  • Mae dyfais galwadau fideo ar gael, fel y gallwch chi i gyd gadw mewn cysylltiad a chynnal cyfarfodydd pwyllgor

Cynllunydd

  • Mae hwn yn allweddol ar gyfer cynllunio, blaenoriaethu gweithgareddau a dirprwyo tasgau.
  • Gellir gosod amserlen ar gyfer pob tasg a'i dirprwyo i aelod penodol o'r pwyllgor
  • Mae yna hefyd dudalen grynodeb i ddangos y cynnydd cyffredinol tuag at gwblhau prosiect

Rhannu Ffeiliau

  • Mae Teams yn ei gwneud hi'n hawdd i aelodau'r pwyllgor rannu a golygu ffeiliau gyda'i gilydd.
  • Mae hefyd yn bosibl rhannu'r ffeiliau hyn gydag unrhyw un sydd ag e-bost @aber.co.uk (h.y. eich aelodau)
  • Mae'r ffeiliau'n cael eu cadw'n ddiogel

 

 

Os ydych chi eisiau help gydag unrhyw un o'r rhain, mae croeso i chi gysylltu â rhywun o'r Tîm Cyfleoedd!

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576