------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
CYNORTHWYWYR ADRANNOL I GYMHEIRIAID 2022/23
Ymunwch â thîm mawr o gynorthwywyr myfyrwyr i helpu myfyrwyr newydd ar eu blwyddyn gyntaf:
- Cewch hyfforddiant penodol mewn gwrando gweithredol a chyfeirio at wasanaethau cymorth o fewn y Brifysgol.
- Byddwch yn meithrin sgiliau a nodweddion gwerthfawr ar gyfer eich CV.
- Gallwch ddefnyddio eich profiad yn y Brifysgol i helpu eraill.
- Caiff eich oriau eu hachredu gan Gwobr Aber
- Cewch gyfle i ennill Gwobr Mentor y Flwyddyn.
- Byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf cyfeillgar ar gyfer myfyrwyr newydd.
- Bydd gennych gyfle i wneud gwahaniaeth, boed fawr neu fach.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
RYDYM YN RECRIWTIO'N FLYNYDDOL, GAN GYSYLLTU Â CHYDLYNWYR PENODOL YM MHOB ADRAN ACADEMAIDD
Beth mae hyn yn ei olygu?
- Mynychu hyfforddiant ar-lein cyn pennu'r sawl y byddwch yn eu myfyrwyr newydd.
- Anfon negeseuon e-bost cychwynnol i gysylltu.
- Cwrdd â'r sawl y byddwch yn eu myfyrwyr yn ôl yr angen (awgrymwn 2-3 o gyfarfodydd y tymor â phob un ohonynt).
- Bod yno i ateb cwestiynau drwy e-bost.
- Helpu myfyrwyr i setlo i mewn a dod o hyd i bopeth sydd gan Brifysgol Aber i'w chynnig.
- Bod yno ar gyfer problemau nad oes angen tiwtoriaid personol na'r adran cymorth i fyfyrwyr i'w datrys.
Yr hyn yr ydym ei eisiau gennych chi
- Person cyfeillgar a thosturiol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Gwybodaeth dda am gyfleusterau'r Brifysgol
- Sgiliau gwrando da
- Trefnus a dibynadwy
- Y Gymraeg (dymunol ond nid yn hanfodol)
- Brwdfrydig dros am helpu eraill
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn dilyn eich cais, caiff manylion eu trosglwyddo i gydlynwyr cynorthwywyr adrannol i gymheiriaid pob adran, er mwyn rheoli'r broses recriwtio a dethol. I wneud cais...