Her Fawr Aber

Rydym wedi lansio'r 'Her Fawr Aber'; sef cyfres her sy'n cael ei chynnal trwy gydol Tymor 2, gyda dwy her yn cael eu rhyddhau bob wythnos i chi gymryd rhan ynddynt ac ENNILL GWOBRAU. Mae yna amrywiaeth o heriau sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Fe welwch rai amrywiadau o glasuron Superteams, yn ogystal â rhai o ffefrynnau Her Aber.

Wythnos Un

Her Plank (5 - 7 Chwefror)
Gemau Jackbox (7pm, 5 Chwefror)

Wythnos Dau

Her Strava (8 - 14 Chwefror)
Her Fideo (8 - 14 Chwefror)

Wythnos Tri

Her Cadw’r Rholyn Toiled yn yr Awyr (19 - 21 Chwefror)
Cystadleuaeth Bobi (19 - 21 Chwefror)

Wythnos Pedwar

Ras Gyfnewid 1 Filltir x 4 (26 - 28 Chwefror)
Helfa Sborion (26 - 28 Chwefror) [Pecyn Gwybodaeth]

Wythnos Pump

Cyfeiriadu (5 - 7 Mawrth)
Her Bwrw’r Targed (5 - 7 Mawrth)

Wythnos Chwech

Prawf Campfa (12 - 14 Mawrth)
Ystafell Ddianc (7pm, 13 Mawrth)

Wythnos Saith

Her Ddringo (17 - 21 Mawrth)
Helfa Lluniau Emoji (20 - 21 Mawrth)

Mae yna wobrau ar gyfer pob her: i’r enillydd mae yna daleb £30 ac mae taleb £20 ar gyfer yr ail safle  (mae ystod eang o dalebau i ddewis ohonynt, o Ridiculously Rich i Amazon, Waterstones i Diva Nails Salon ... bydd rhywbeth at ddant pawb). Yn ogystal, mae gwobrau bonws am gymryd rhan ac am greadigrwydd. Gyda chymaint o gyfleoedd, beth am roi cynnig arni!

Yn well fyth, mae yna gymhellion ar gyfer clybiau a chymdeithasau hefyd (cofiwch, serch hynny, fod y digwyddiadau hyn yn agored i bawb, ac nid ydynt yn gyfyngedig i aelodau clybiau a chymdeithasau). Rydym yn cynnig cyfle i un clwb ac un gymdeithas i ennill £100 ar gyfer cyfrif eu grwp myfyrwyr. Wrth fynychu / cyflwyno ceisiadau, dylai cyfranogwyr nodi a ydyn nhw'n cynrychioli clwb neu gymdeithas benodol; byddwn ni wedyn yn cadw cyfrif ar draws yr holl ddigwyddiadau i weld pwy sydd â'r nifer fwyaf o aelodau wedi cyfranogi.

*Anogwch eich aelodau i 'brynu' Yswiriant TîmAber (am ddim) os ydyn nhw am gymryd rhan yn y gyfres her. Bydd hyn yn darparu yswiriant yn achos unrhyw anafiadau neu ddamweiniau.

Gobeithiwn eich gweld yn un o'n digwyddiadau her yn fuan! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni suopportunities@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576