Cynllun Achrediad Sêr Tîm Aber yw ffordd UMAber o gydnabod datblygiad ein Clybiau a'n Cymdeithasau, yn ogystal â dathlu'r pethau gwych y maen nhw'n eu cyflawni. Mae ein cynllun yn eich helpu i feincnodi'ch datblygiad, sicrhau eich bod yn cynnig y profiad gorau posibl i'ch aelodau a'ch cefnogwyr, adeiladu cynaladwyedd, rhoi hwb i'ch enw da a chael mynediad at nifer o fanteision i’ch grwp.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun achrediad, mae croeso i chi gysylltu â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr cyfleoeddum@aber.ac.uk
Sut mae'n gweithio?
Gall unrhyw grwp myfyrwyr sy'n gysylltiedig ag UM Aber gymryd rhan. Gall eich grwp gyflawni achrediad 4-seren, 3-seren, 2-seren neu 1-seren.
Yn syml:
- Cyflwynwch dystiolaeth yn y ffolder sy'n mynd gyda MS Team eich grwp.
- Bydd staff yn adolygu'r dystiolaeth a gyflwynir bob tymor ac yn ei diweddaru yn unol â hynny. Neu gallwch e-bostio eich Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (cyfleoeddum@aber.ac.uk) pan fyddwch chi’n meddwl eich bod wedi cyrraedd lefel newydd o achrediad
- Gallwch olrhain eich cynnydd yn y ffeil sy'n mynd gyda MS Team eich grwp
Er mai'r fantais fwyaf o gymryd rhan yn y cynllun yw bod â grwp myfyrwyr effeithiol iawn, cynigir gwobrau i'r rhai sy'n ennill achrediad.

Gwobrau 4-seren
- Rhywbeth arbennig i aelodau'r pwyllgor i ddathlu cyflawni achrediad
- Caiff hyn ei ddathlu yn ystod y Tymor Gwobrwyo
- Caiff y grwp ei hysbysebu fel un 4-seren ar wefan yr UM
- Stondin premiwm yn y Ffair Groeso a'ch cynnwys mewn deunyddiau marchnata
- Stondin premiwm yn Ail Ffair y Glas a'ch cynnwys mewn deunyddiau marchnata
- Sicrwydd o gyhoeddusrwydd am eich grwp ar ein sianeli cyfathrebu
- Caiff 10 grwp eu tynnu o het i dderbyn grant o £50 i'w wario ar wella'r grwp myfyrwyr, e.e. deunyddiau hyrwyddo, offer, ac ati.
- e-fathodyn 4-seren
Gwobrau 3-seren
- Caiff hyn ei ddathlu yn ystod y Tymor Gwobrwyo
- Caiff y grwp ei hysbysebu fel un 3-seren ar wefan yr UM
- Blaenoriaeth o ran lle yn y Ffair Groeso a'ch cynnwys mewn deunyddiau marchnata
- Blaenoriaeth o ran lle yn Ail Ffair y Glas a'ch cynnwys mewn deunyddiau marchnata
- Cyhoeddusrwydd i'r grwp myfyrwyr drwy erthyglau ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol
- Caiff 5 grwp eu tynnu o het i dderbyn grant o £35 i'w wario ar wella'r grwp myfyrwyr, e.e. deunyddiau hyrwyddo, offer, ac ati.
- e-fathodyn 3-seren
Gwobrau 2-seren
- Caiff hyn ei ddathlu yn ystod y Tymor Gwobrwyo
- Caiff y grwp ei hysbysebu fel un 2-seren ar wefan yr UM
- Caiff 3 grwp eu tynnu o het i dderbyn grant o £25 i'w wario ar wella'r grwp myfyrwyr, e.e. deunyddiau hyrwyddo, offer, ac ati.
- e-fathodyn 2-seren
Gwobrau 1-seren
- Caiff hyn ei ddathlu yn ystod y Tymor Gwobrwyo
- Caiff y grwp ei hysbysebu fel un 1-seren ar wefan yr UM
- e-fathodyn 1-seren

Cyfranogiad yn Undeb y Myfyrwyr
Ardderchog (Lefel 4): Mae o leiaf un aelod o'r Clwb/Cymdeithas yn sefyll ar gyfer Etholiad yn Etholiadau Blynyddol yr UM NEU mae 50% o holl aelodau cofrestredig y Clwb/Cymdeithas yn pleidleisio yn Etholiadau Blynyddol yr UM
Da Iawn (Lefel 3): O leiaf 2 aelod o’r pwyllgor yn bresennol mewn cyfarfodydd parthau, gydag 1 syniad ar gyfer Senedd neu gyfarfod parth yn y flwyddyn academaidd
Da (Lefel 2): O leiaf 2 aelod pwyllgor yn bresennol yn y Cyfarfod MAWR (CCB)
Yn Datblygu (Lefel 1): Yn Cymryd Rhan yn Ffair y Glas / Ail Ffair y Glas / Mae’r Ferch Hon yn Gallu
Aelodaeth
Ardderchog (Lefel 4): Mae aelodaeth y Clwb/Cymdeithas wedi cynyddu 20% ers y flwyddyn academaidd flaenorol.
Da Iawn (Lefel 3): Mae aelodaeth y Clwb/Cymdeithas wedi cynyddu o leiaf 10% ers y flwyddyn academaidd flaenorol.
Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn llwyddo i gynnal yr un nifer o aelodau â'r flwyddyn academaidd flaenorol.
Yn Datblygu (Lefel 1): Dangos ymdrech i ddenu aelodau e.e. drwy stondinau, cyfryngau cymdeithasol , ddigwyddiadau neu’n gweithio gyda’r UM i drefnu sesiynau blasu ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n aelodau
Gweithgaredd
Ardderchog (Lefel 4): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn trefnu digwyddiad/ymgyrch fawr untro wedi'u targedu at eu haelodau (digwyddiad RAG).
Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnig neu'n ymgysylltu â datblygiad personol (e.e. cyrsiau addysgu hyfforddwyr, gweithdai, a.y.b.)
Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnal gweithgareddau rheolaidd ar gyfer eu haelodau sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r nodau ac amcanion a amlinellwyd.
Yn Datblygu (Lefel 1): Mae nodau ac amcanion y Clwb/Cymdeithas wedi’u hamlinellu ar dudalen we'r grwp
Cymuned
Ardderchog (Lefel 4): Mae'r Clwb/Cymdeithas yn cydweithredu â grwpiau cymunedol/elusennau i gynnal digwyddiad mewn partneriaeth neu er mwyn codi arian
Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas wedi cydweithio â Chlybiau/Cymdeithasau eraill ar neu oddi ar y campws i gynnal gweithgaredd neu ddigwyddiad mewn partneriaeth, neu er mwyn codi arian
Da (Lefel 2): Mae aelodau'r Clwb/Cymdeithas wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli.
Yn Datblygu (Lefel 1): Mae’r Clwb/Cymdeithas wedi mynd ati i godi arian at Elusen, gan gyfrannu at gyfanswm blynyddol RAG yr UM
Pwyllgor
Ardderchog (Lefel 4): Mae'r pwyllgor yn cyhoeddi cofnodion o gyfarfodydd allweddol â'u haelodau AC mae 70% o’r holl aelodau a phob aelod o'r pwyllgor yn pleidleisio yn etholiadau’r pwyllgor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Da Iawn (Lefel 3): Cynhaliwyd etholiadau’r pwyllgor yn ddemocrataidd gyda 50% o’r holl aelodau a phob aelod o’r pwyllgor yn pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Da (Lefel 2): Mae o leiaf dau aelod perthnasol o’r pwyllgor yn mynychu pob hyfforddiant pwyllgorau AC mae pob aelod o'r pwyllgor wedi mynychu o leiaf un sesiwn
Yn Datblygu (Lefel 1): Mae manylion cyfoes am y pwyllgor a dogfennau craidd ar y wefan a MS Teams AC mae holl aelodau'r pwyllgor wedi cofrestru fel gwirfoddolwr
Cyfathrebu
Ardderchog (Lefel 4): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnal ymgyrchoedd ac yn creu deunyddiau marchnata creadigol AC mae gweithgareddau’r Clwb/Cymdeithas yn defnyddio'r Gymraeg wrth hyrwyddo digwyddiadau/aelodaeth
Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn ymgysylltu'n effeithiol â chyfryngau cymdeithasol yr UM AC mae’r Clwb/Cymdeithas yn cyflwyno straeon newyddion bob tymor i’r UM
Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn defnyddio o leiaf un platfform cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu gweithgareddau AC mae eu tudalen we yn Gymraeg yn cael ei diweddar fel ei bod yn gyson â'r Saesneg
Yn Datblygu (Lefel 1): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cadw eu gwefan yn gyfoes o ran digwyddiadau a gweithgareddau; mae ganddynt logo unigryw, disgrifiad clir o'r Clwb/Cymdeithas a sut y gall myfyrwyr gyfranogi
Cyllid
Ardderchog (Lefel 4): Mae Clwb/Cymdeithas yn cynhyrchu ac yn diweddaru taflen incwm/gwariant yn gyson AC mae’n gallu dangos bod incwm aelodaeth yn cael ei wario ar adnoddau sydd o fudd i'w haelodau
Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynhyrchu incwm ar ffurf nawdd allanol, cyllido a chodi arian gan ddilyn gweithdrefnau’r UM
Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn llunio cyllideb a ragwelir ar gyfer y flwyddyn i ddod
Yn Datblygu (Lefel 1): Mae Llywydd/Trysorydd y Clwb/Cymdeithas wedi mynychu a phasio hyfforddiant pwyllgor ar gyfer 'Cyllid, Cyllidebu a Chodi Arian' ac wedi cwblhau'r ffurflen fandad
Ymddygiad
Ardderchog (Lefel 4): Mae holl aelodau'r pwyllgor wedi mynychu Hyfforddiant Dim Esgusodion gyda Swyddog Llesiant yr UM
Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnal o leiaf 4 digwyddiad cymdeithasol di-alcohol yn ystod y flwyddyn
Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas wedi arwyddo'r Addewid Dim Esgusodion
Yn Datblygu (Lefel 1): Mae o leiaf 2 aelod o’r pwyllgor wedi mynychu a phasio’r sesiwn 'Ymddygiad, Rheolau a Disgwyliadau' yn ystod hyfforddiant pwyllgorau
Cynhwysiad
Ardderchog (Lefel 4): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn ceisio rheoli, hyd y gallant, un neu fwy o rwystrau posibl a allai atal myfyrwyr rhag ymuno â'ch grwp ac aros yn rhan ohono
Da Iawn (Lefel 3): Mae'r Clwb/Cymdeithas yn trefnu neu’n chwarae rhan allweddol mewn digwyddiad sy'n dathlu amrywioldeb
Da (Lefel 2): Mae o leiaf dau aelod o'r pwyllgor wedi mynychu a phasio'r hyfforddiant pwyllgor 'Lles, Amrywioldeb a Chynhwysiad'
Yn Datblygu (Lefel 1): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn arddangos datganiad cynhwysiad ar eu tudalen we
Llesiant
Ardderchog (Lefel 4): Gall y Clwb/Cymdeithas ddangos effaith llesiant cadarnhaol ar aelodau gyda dyfyniadau/tystiolaeth/erthyglau gan aelodau
Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnal gweithgaredd/digwyddiad llesiant cadarnhaol ar gyfer eu haelodau
Da (Lefel 2): Mae 2 aelod o’r pwyllgor wedi cwblhau Hyfforddiant Gwydnwch yr UM A / NEU Mae 2 aelod o'r Pwyllgor wedi'u hyfforddi mewn Atal Hunanladdiad
Yn Datblygu (Lefel 1): Maen nhw’n ymwneud â digwyddiadau sy'n hyrwyddo llesiant cadarnhaol