TîmAber

Tîm Aber yw cymuned Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau UMAber 

Yma yn Aberystwyth, mae gennym ni dros 43 o wahanol Glybiau Chwaraeon ac 78 o Gymdeithasu, sy’n cynnig cyfleoedd di-ben-draw i chi gyfranogi. P’un a ydych chi am gystadlu ar y lefel uchaf neu ond am gael tipyn o hwyl, gall dod yn rhan o gymuned Tîm Aber wneud eich profiad o fod yn fyfyriwr yn un bythgofiadwy!

I fod yn aelod o’n Clybiau Chwaraeon neu Gymdeithasau, yn gyntaf bydd angen i chi brynu yswiriant Tîm Aber. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth trwy glicio ar “Ymuno â Thîm Aber” isod!
 

 
     

 


Ymuno â Thîm Aber

I fod yn aelod o’n Clybiau Chwaraeon neu Gymdeithasau, yn gyntaf bydd angen i chi brynu yswiriant Tîm Aber. 

Fel arfer codir ffi flynyddol o £6, ond eleni rydyn ni’r talu’r gost hon er mwyn sicrhau eich bod chi’n gallu cymryd rhan mewn cymaint o gyfleoedd â phosib a dod o hyd i’ch cymuned Tîm Aber. Mae’r yswiriant yn darparu pob myfyriwr ag yswiriant personol ar gyfer unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â’r UM. Unwaith y bydd hwn gennych chi, gallwch gymryd rhan yng ngweithgareddau faint fynnwch chi o glybiau a chymdeithasau. Gweler y rhestrau o Glybiau a Chymdeithasau, ac ymunwch â chynifer ag y mynnwch.

Mae pob Clwb/Cymdeithas wedyn yn gosod eu ffi aelodaeth eu hunain. Gallwch ymuno â rhai clybiau am ddim; gall eraill ofyn i chi dalu ffi ar gyfer costau penodol. Gweler tudalennau unigol y Clybiau/Cymdeithasau am fwy o fanylion ynghylch eu dewisiadau o ran aelodaeth.


Team Aber Insurance|Yswiriant Tîm Aber

Cyf: M10004900
The insurance provides all students with personal cover for any SU-related activity. Once you have this, you can take part in the activities of as many clubs and societies as you like.|Mae’r yswiriant yn darparu pob myfyriwr ag yswiriant personol ar gyfer unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â’r UM. Unwaith y bydd hwn gennych chi, gallwch gymryd rhan yng ngweithgareddau faint fynnwch chi o glybiau a chymdeithasau.


Yswiriant Dim yn Myfyriwr

 

Mae’r yswiriant hwn yn rhoi yswiriant damweiniau personol i’r rheini nad ydynt yn fyfyrwyr. Noder: mae ein polisi gwarantu ar gyfer myfyrwyr, felly efallai na fydd yn ddigonol ar gyfer y rheini nad ydynt yn fyfyrwyr ac sydd mewn cyflogaeth.

Ceir yma manylion llawn ar yr hyn mae’r polisi yn ei warantu.

Fel arall, mae croeso i chi gael eich yswiriant personol eich hunan a’i anfon yn dystiolaeth at undeb@aber.ac.uk

Non-Student Insurance|Yswiriant Dim yn Myfyriwr

Cyf: M10030720

Mae’r yswiriant hwn yn rhoi yswiriant damweiniau personol i’r rheini nad ydynt yn fyfyrwyr. Noder: mae ein polisi gwarantu ar gyfer myfyrwyr, felly efallai na fydd yn ddigonol ar gyfer y rheini nad ydynt yn fyfyrwyr ac sydd mewn cyflogaeth. 

Ceir yma manylion llawn ar yr hyn mae’r polisi yn ei warantu:
https://www.umaber.co.uk/timaber/hwbadnoddau/

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau o ran y polisi a’r hyn mae’n ei warantu, cysylltwch ag undeb@aber.ac.uk

******************************

This insurance provides non-students with personal accident insurance. Please note: our policy cover is designed for students so may not be adequate for non-students in employment.

Full details of what the policy covers can be found here: https://www.abersu.co.uk/teamaber/resourcehub/

Any questions about your coverage please email union@aber.ac.uk
 

 


Yn ôl i’r brig


 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576