Ymgyrch godi arian rithwir 24 awr ar gyfer adnewyddu / cynnal a chadw’r Hen Goleg. Mae hwn yn brosiect gwerth £30 miliwn a fydd yn ailddatblygu'r adeilad yn ganolfan ddiwylliannol, dysgu a menter ar gyfer Aberystwyth, gyda'r gobaith y bydd yn denu llawer o ymwelwyr newydd i Aber yn y dyfodol.
Caiff y digwyddiad ei strwythuro fel un ymgyrch ar y cyd dros gyfnod o 24 awr i nodi pen-blwydd agor ein prifysgol, sef 16eg Hydref.
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan ein clybiau a'n cymdeithasau, sydd â phob math o syniadau maent am roi cynnig arnyn nhw.
Bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys:
1. Cwis Mawr Aber!
Mae’r Dawnswyr Sioe Gerdd yn cynnal 'Cwis Mawr Aber'! ar MS Teams.
Pris mynediad yw £3 y tîm, a bydd y cwis yn dechrau am 8:15pm.
Ymunwch am gwis tafarn ychydig yn wahanol; mae gwobrau anhygoel ar gael.
Cliciwch yma i brynu'ch tocyn nawr.
2. Twrnamaint Chwarae Gemau 'Ymysg ein gilydd'
Yn cael ei gynnal gan y clwb Lacrós trwy MS Teams.
£1 i gymryd rhan yn y gêm, gyda gwobrau i'r enillwyr.
Cliciwch yma i brynu'ch tocyn mynediad.
3. Cymdeithas y Gwenyn - Noddi gwenyn 
Am £1 gallwch noddi'ch gwenyn eich hun, derbyn llun a cherdyn yn llawn ffeithiau difyr.
Cliciwch yma i noddi eich gwenyn.
4. Bingo! 
Mae cymdeithas Anifeiliaid a Milfeddygol Aber (AAVS) yn cynnal Bingo am ddim ond £1 y stribed.
Cliciwch yma i brynu'ch tocyn ac ymunwch â'r alwad i chwarae ynghyd ag AAVS!
5. Record Aber - #IBrokeAnAberRecord
Bydd byrddau’r arweinwyr yn aros ar wefan UM bob blwyddyn, lle gallwch chi ddangos eich enw i'ch ffrindiau â balchder.
Bydd clybiau a chymdeithasau yn cynnal recordiau penodol y gallwch eu noddi i geisio’u curo, er enghraifft mae’r gymdeithas Pêl-êl (Beer Pong) yn ystyried ambell record ping pong i'w curo.
Gallwch dalu £3 i ymuno â'r ddolen Zoom eich hun. Os gallwch chi dorri’r record, yna bydd eich enw ar fwrdd yr arweinwyr trwy'r flwyddyn!
Cliciwch ar y ddolen isod i ymuno a cheisio torri'r record neu noddi'r clwb £1 yma:

Cymdeithas y Gwenyn - yr amser cyflymaf i fwyta holl gynnwys calendr Adfent
Dawnswyr Sioe Gerdd - Faint o bobl allwn ni gael yn dawnsio fel pe baen nhw mewn parti ar un alwad Zoom

AAVS - Y mwyaf o jeli y gall rhywun ei fwyta mewn munud gyda chopsticks

Daearyddiaeth (GeogSoc) - Y nifer fwyaf o nygets sy'n cael eu bwyta mewn 2 funud (Cyw Iâr neu Quorn)

Pêl-êl (Beer Pong) - Yr amser cyflymaf i gael pêl i mewn i bum cwpan

Pwl - Marathon chwarae pwl am 24 awr
Rhodd Ychwanegol
Diolch i'r 8 clwb a chymdeithas sydd wedi cynnal y digwyddiad eleni:

