Yn cyflwyno'r Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr newydd

welsh

Helo, Wojtek ydw i, eich Swyddog Cyfleoedd newydd.
Os ydych chi’n ansicr ynglyn â sut i sillafu fy enw, dydych chi mo’r unig un...  Mae croeso i chi fy ngalw i’n Woj.


Rwyf yn wreiddiol o Warsaw yng Ngwlad Pwyl, a des i Aberystwyth dair blynedd yn ôl i astudio Ffilm a Theledu. Fel llawer o fyfyrwyr Aber, penderfynais adael fy nheulu a fy ffrindiau ar ôl ac wynebu’r her o fyw ymhell o gartref.
Yn ystod Ffair y Glas, sylweddolais fod mwy i’r Brifysgol na dim ond yr agwedd academaidd, a chyn bo hir, des yn aelod o Glwb Cicfocsio PA. Fy nod bryd hynny oedd bod yn iachach, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, cael hwyl a chwrdd pobl newydd.
Helpodd bod yn rhan o CCPA i fy ngwneud i’r person rwyf i heddiw; cefais gyfle i gwrdd â llawer o bobl ddiddorol, gan herio fy hun fel Llywydd CCPA. Tyfodd fy nghymeriad yn sgil ymdopi ag anawsterau.
Fy mhrofiad yn CCPA, yn ogystal â Chwb Syrffio PA, oedd y rhan gorau o fywyd Prifysgol, a dyna pam y penderfynais i sefyll ar gyfer rôl Cyfleoedd. Fy amcan yw gwneud bywyd pob myfyriwr yn well drwy eu darparu â chlybiau a chymdeithasau, lle byddant yn teimlo’n dda, yn cael hwyl ac yn gwneud ffrindiau am oes.

 

Beth fyddai eich 3 phrif awgrym ar gyfer unrhyw fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?

1.    Rhowch gynnig ar gynifer o gymdeithasau a chlybiau â phosib - dydych chi yn gwybod beth fydd yn mynd â’ch bryd.

2.    Gwyliwch allan am y gwylanod pan fyddwch chi’n dod allan o Ganolfan y Celfyddydau, y llyfrgell neu’r UM - mae nhw’n eich gwylio chi.

3.    Byddwch yn ddymunol gyda phob myfyriwr ac aelod o’r gymuned leol (yn arbennig dryswyr a gyrwyr tacsis) - dydych chi byth yn gwybod pa bryd y gallan nhw achub eich noson.

 

Enwch rai achosion sy'n bwysig i chi.         

Boddhad myfyrwyr yn sgil eu profiad o Aber sydd bwysicaf. Ac mae mwy i hynny na dim ond astudiaethau.

Rwyf am i fyfyrwyr deimlo’n hapus, bod yn iach, mwynhau eu hamser yma a chael cyfleoedd i ddilyn eu hamcanion a’u hobïau personol. Ac yn bwysicaf oll, canfod ffrindiau am oes.

 

Pe gallech chi newid un peth ym Mhrifysgol Aberystwyth, beth fyddai hynny? 

Buaswn yn gwneud y Brifysgol yn gydnaws ag anifeiliaid, a mynnu ci i mi fy hun; dim ond os byddwn i’n cael mynd â’r ci i ddosbarthiadau

 

Dewiswch dri gair sy'n eich disgrifio orau. 

Angerddol, Doniol, Hamddenol

 

Beth yw eich hoff bryd bwyd?         

Sushi, heb amheuaeth.

 

Oes gennych chi unrhyw hobïau neu ddiddordebau?        

Rwyf yn gwylio ffilmiau, gwneud ymarfer corff a dwi’n ysgrifennu cryn lawer. Dwi hefyd yn hoffi eira-fyrddio a syrffio ar fyrddau-hir. O, a dwi hefyd wrth fy modd yn dawnsio.

 

Beth yw eich hoff leoliad yn Aberystwyth?

Dwi newydd ddarganfod - cefn Canolfan y Celfyddydau. Gallwch fwyta heb gael eich poeni gan y gwylanod, a gallwch fwynau peint am bris awr hapus - arbennig!

 

Enwch hoff le rydych chi wedi ymweld ag e, a dwedwch pam.    

Castell Neuschwanstein yn yr Almaen. Buaswn wrth fy modd bod â thy fel yna rhyw ddiwrnod.

 

Pe baech chi'n uwch-arwr, pa bwerau fyddai gennych chi?

“Napman”
Fyddwn i byth yn teimlo’n flinedig, dim ond os oeddwn i eisiau hynny. Fel yma, byddai gen i lawer iawn mwy o amser ar gyfer partïon a phethau felly, ac wrth gwrs buaswn yn gallu cysgu pryd bynnag oeddwn i eisiau.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576