Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dathlu sefydlu Chwaraeon Rhyng-Brifysgol

bannerwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Staff a Swyddogion yn dathlu 100 mlynedd o chwaraeon rhyng-brifysgol ym Mhalas St James.

Yn ddiweddar dathlodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu rôl fel un o aelodau sylfaenol bwrdd Rhyngolgampau Cymru a Lloegr (a ddaeth yn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain, sef BUCS), drwy fynychu Derbyniad Brenhinol ym Mhalas St James. Ymunodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth â Bangor, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Leeds, Lerpwl, Nottingham, Manceinion a Sheffield fel un o'r deg mudiad gwreiddiol a sefydlodd Chwaraeon Rhyng-Brifysgol am y tro cyntaf ar 14 Mawrth 1919.

Meddai Louisa Fletcher, Swyddog Cyfleoedd Undeb y Myfyrwyr: “Mae'n anhygoel bod ein Hundeb Myfyrwyr bach ond nerthol wedi chwarae rhan mor bwysig mewn ffurfio Chwaraeon Rhyng-Brifysgol, sy'n dal i gael effaith enfawr ar fywydau myfyrwyr. Sefydlwyd BUCS yn wreiddiol gan Undebau Myfyrwyr, ac rydym yn arbennig o falch ein bod yn un o'r ychydig Undebau Myfyrwyr cyntaf hynny sy'n dal i gymryd rhan mewn Chwaraeon Cystadleuol BUCS ganrif yn ddiweddarach. ”

O'r gystadleuaeth athletau gyntaf, mae'r sector wedi tyfu'n sylweddol dros y 100 mlynedd diwethaf, o ddim ond 10 prifysgol yn cystadlu mewn un digwyddiad, i dros 170 o Brifysgolion yn cystadlu mewn dros 50 o gampau. Mae Undeb y Myfyrwyr yn Aber yn cynnal 42 o dimau cofrestredig o fyfyrwyr sy’n cystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon, o Saethyddiaeth i Syrffio. Bob wythnos mae cannoedd o fyfyrwyr Aber yn teithio hyd a lled Cymru a Lloegr, pellteroedd sy’n cyfateb i gyhydedd y Ddaear bob blwyddyn, i gymryd rhan mewn gwahanol gampau a chynrychioli Aberystwyth.

Yn ystod digwyddiad y sefydlwyr, derbyniwyd 6 arwr Chwaraeon i Oriel Anfarwolion BUCS. Meddai Trish McGrath, Prif Weithredwr yr UM “Roedd yn fraint wirioneddol bod yn y digwyddiad yn y Palas ac i wylio’r Dywysoges Frenhinol yn croesawu Roger Bannister, Lynn Davies, Bill Slater, Gareth Edwards, Alison Odell a Danielle Brown i Oriel Anfarwolion BUCS".

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576