Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wrth eu bodd â chanlyniad yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddar sy'n eu gosod ar frig y tabl am foddhad myfyrwyr yng Nghymru.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wrth eu bodd â chanlyniad yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddar sy'n eu gosod ar frig y tabl am foddhad myfyrwyr yng Nghymru.
Meddai Llywydd yr UM, Sabina O'Donoghue: “Rydyn ni wrth ein boddau, er gwaethaf un o'r blynyddoedd mwyaf cymhleth yn ein hanes, ein bod ni wedi llwyddo i gynyddu nifer ein hymatebion cadarnhaol i'r ACF, a olygodd mai ni yw’r Undeb Myfyrwyr sydd â'r sgôr uchaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr. Llongyfarchiadau enfawr i'r Brifysgol am sgôr uchel eto eleni, gan aros ar y brig o ran Sefydliadau AU yng Nghymru".
"Rydym yn eithriadol o falch o'r ffordd y mae Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol wedi gweithio gyda'i gilydd i gadw profiad myfyrwyr wrth galon unrhyw gamau a phenderfyniadau a gymerwyd trwy gydol blwyddyn heriol. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn dal ati i weithio'n galed i sicrhau bod lefel boddhad myfyrwyr yn parhau i fod yn uchel yn Aberystwyth ac i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr.”
Mae UM Aberystwyth wedi dringo o’r 6ed safle yng Nghymru yn 2017, gan bellach ymuno â'r Brifysgol ar frig y tabl o ran boddhad myfyrwyr yng Nghymru.
Meddai Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr, Trish McGrath: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed iawn i ddatblygu a thyfu ein UM yn ogystal ag ymgysylltiad a boddhad y myfyrwyr; hoffwn ddiolch i bob myfyriwr, aelod o staff, Swyddog, Cynrychiolydd Academaidd a Chydweithiwr yn y Brifysgol sydd wedi ein helpu i dyfu a symud i’r cyfeiriad cywir, ac i’r Brifysgol am eu cefnogaeth barhaus a'u hethos cadarnhaol.”