Dathlu llwyddiant a chyraeddiadau ein myfyrwyr a'n cymdeithasau yma ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae ein gwobr Clwb y Flwyddyn yn un o’r gwobrau mwyaf dewisol a chwenychedig o fewn Tîm Aber. Dyfarnir y wobr hon i glwb mwyaf llwyddiannus, ymroddedig, a gweithredol y flwyddyn academaidd. Dyma’r wobr o bell ffordd a gafodd y mwyaf o enwebiadau, roedd yn ffantastig gweld yr amrywiaeth o glybiau yn cael eu cyflwyno ar gyfer y wobr hon, a phob un ag enwebiadau cryf.
Mae ein clwb buddugol, yr Harriers (Rhedeg ac Athletau), wedi derbyn nifer o enwebiadau, a phob un yn canmol yr ymroddiad gan y pwyllgor a’r cyfraniadau enfawr a wnaed tuag at greu Aberystwyth hapusach a mwy iach yn ystod yr amserau anodd.
Amlygodd llawer o’r enwebiadau y lefelau uchel o gymryd rhan o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cynyddu sylfaen eu haelodaeth gan y ganran anghredadwy o 150. Un o’r pwyntiau diffiniol a safodd allan i’r panel oedd ymroddiad y clwb i greu amgylchedd cynhwysol i’w haelodau, fel bod pawb, waeth beth oedd eu gallu rhedeg yn cael mwynhau y gweithgareddau.
Mae’r clwb hwn wedi ymdrechu i ddarparu’r gorau ar gyfer eu haelodaeth hyd yn oed pan oedd gweithgareddau’n rhithiol. Yn ystod y cyfnod clo y trefnasant nifer o ddigwyddiadau rhithiol, gan gynnwys relái rhithiol 12 awr, rasys 200m a 400m a ras rhithiol 5cm.
Mae’r clwb hefyd ynghlwm wrth y gymuned, trwy wirfoddoli a chymryd rhan yn y gystadleuaeth Town vs. Gown.
Trwy’r enwebiadau roedd yn glir i’w weld faint mae eu haelodaeth yn gwerthfawrogi popeth mae’r grwp wedi gwneud drostynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dyma rai pytiau o’r enwebiadau:
“Ymunais â’r Harriers ar ddechrau’r flwyddyn fel rhywun nad oedd erioed gwirioneddol wedi bod yn rhedeg o’r blaen ac ar unwaith teimlais fod yno croeso nid yn unig gan y pwyllgor a’r aelodau eraill ond hefyd trwy’r sesiynau hyfforddi a oedd wedi’u teilwra i bob lefel wahanol o brofiad.”
- Enwebedig dienw
“Mae ymuno â’r Harriers wedi helpu i fi deimlo’n llai ynysig ac rwy wedi gwneud cymaint o ffrindiau trwy’r clwb a ni allwn ei argymell mwy i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhedeg neu sydd ond chwilio i wella ei ffitrwydd.”
- Enwebedig dienw
“Clwb sydd wedi datblygu o gael, yn y gorffennol, neb yn troi lan i nosweithiau hyfforddi, maent nawr yn mwynhau cofrestr iach iawn o 30 aelod yn uwch yn herio oerni Aberystwyth er mwyn dod i hyfforddi, hyd yn oed ar nosweithiau Gwener! Mae’r cofnodion presenoldeb cryf yn dyst o ymroddiad y pwyllgor i fod yn gynhwysol trwy enwebu hyfforddwyr ar gyfer rhedeg pellteroedd byr, canol a hir er mwyn teilwra i bob gallu”.
- Enwebedig dienw
Ar y cyfan, ni fyddai llwyddiannau’r grwp wedi digwydd heb ymroddiad a natur rhagweithiol y pwyllgor. Mewn blwyddyn sydd wedi taflu heriau di-baid ar ein grwpiau, mae’r Harriers wedi sefyll i wynebu’r her ac yn parhau i gynnal cyfleoedd gwerthfawr i’w haelodau, i gadw’n heini, i wneud ffrindiau newydd ac yn bwysig byth i wella llesiant myfyrwyr. Mae’r UM wedi’u cyffro gweld bod yr Harriers yn dal at eu gwaith ffantastig gan ddilyn y flwyddyn o’n blaenau!
Beth am i chi gymryd rhan? Cewch fwy am yr Harriers yma: