DEWCH I GWRDD Â THÎM YR UM
Dros yr Haf, mae'n bryd i ni fel Undeb Myfyrwyr edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd newydd fod, paratoi i groesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i Aber ym mis Medi a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer 2020-2021.
Mae misoedd yr haf hefyd yn amser i groesawu a hyfforddi timau swyddogion newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn cynorthwyo'r tîm swyddogion mae teulu o staff UM sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.
Rydym yn bwriadu manteisio ar y cyfle dros yr ychydig fisoedd nesaf i gyflwyno teulu UMAber - sydd i gyd yma i chi os ydych chi angen cymorth, cyngor neu sgwrs.
Sbotolau ar Tom Morrissey - Cydlynydd Datblygu Cymdeithasau
Ble mae dy gartref?
Aberystwyth (Birmingham yn wreiddiol)
Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun:
Cyn ymuno ag UMAber, roeddwn i wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd meistr integredig mewn Daearyddiaeth. Rwyf bellach wedi bod yn y swydd hon ychydig dros flwyddyn, ac mae wedi bod fel corwynt. Rwyf wedi cwrdd â phobl anhygoel, wedi gwneud cymaint o bethau rhyfeddol, ac ni allwn fod wedi gofyn am fod yn rhan o dîm gwell.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Ho Fun llysiau cymysg o Fusion King!
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Rwyf wrth fy modd yn treulio amser ymysg byd natur. Rwy'n mwynhau cerdded, darganfod ardaloedd newydd a garddio. Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau rhedeg ac yn mwynhau’r profiad yn fwy na'r disgwyl, felly gall hynny fynd ar y rhestr hefyd nawr.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
Heb amheuaeth, y gymuned. Y gymuned leol, cymuned y staff, a chymuned y myfyrwyr. Mae pawb yn groesawgar iawn ac mae rhywbeth yn digwydd bob amser. Un fantais enfawr o'r swydd yw gallu gorffen yn gynnar ar ddiwrnod heulog braf a mynd i ymlacio ar y traeth. Rydyn ni hefyd mewn lleoliad gwych i fynd i ddarganfod ardaloedd newydd; waeth i ba gyfeiriad rydych chi'n mynd allan o Aberystwyth, mae yna rywle i'w diddorol i’w archwilio.
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Mae'n debyg y byddwn i'n dal i fod yn fyfyriwr. Cyn cael y swydd hon, roeddwn i’n ystyried gwneud PhD mewn Seicoleg Amgylcheddol, gyda'r nod yn y pen draw o ddod yn ddarlithydd. Mae hyn yn dal i fod yn bosibilrwydd, ond nid ar yr adeg hon o fy mywyd.
Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?
Rwyf wrth fy modd yn rhyngweithio â myfyrwyr. Gweld yr effaith gadarnhaol y mae ein clybiau a'n cymdeithasau yn ei chael ar brofiad myfyrwyr yw’r rheswm pam fy mod i yma. Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn gweld aelodau pwyllgor unigol yn tyfu ac yn dod yn rhan annatod o gymuned Tîm Aber. Ochr yn ochr â hyn, mae gennym ni gymaint o amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau, pob un ohonyn nhw'n unigryw, gan wneud pob dydd yn hollol wahanol i'r diwrnod cynt. Hyn oll ynghyd â gweithgareddau cyffredinol yr Undeb a'r digwyddiadau amrywiol rydyn ni'n eu cynnal, mae'n fy nghadw ar flaenau fy nhraed.
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Roeddwn i’n cyfranogi cryn lawer, ond nid gydag UMAber. Rwy'n raddedig o Fangor; tra roeddwn i yno, bûm yn rhan o wahanol grwpiau myfyrwyr, yn ymwneud yn bennaf â chadwraeth, garddwriaeth, yr amgylchedd ac adeiladu cymunedau. Ymgymerais â gwahanol rolau, gan gychwyn fel aelod yn fy nwy flynedd gyntaf, ac yna dod yn aelod o’r pwyllgor ar gyfer amryw o grwpiau yn fy nwy flynedd olaf.
Mae UMAber... i chi! Mae'n lle i fyfyrwyr fod yn rhan o deulu Tîm Aber! Eich cartref i dyfu, cysylltu, ac yn bwysicaf oll, i fod yn chi'ch hun. Mae myfyrwyr Aber yn haeddu cael y gorau o'u profiad myfyrwyr; UMAber yw'r lle i wneud hynny.
Nid yw UMAber… yn far, yn siop na’n sefydliad hen-ffasiwn sy’n benderfynol o wneud eich bywyd yn anodd!
Nid yw'r haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf?
Ble ydw i'n dechrau? I mi a’r Tîm Cyfleoedd dyma pryd byddwn ni’n croesawu a hyfforddi aelodau newydd y pwyllgorau. Mae'n gyfle i ni adolygu'r flwyddyn a gweld sut rydyn ni am ddatblygu popeth rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni'n defnyddio'r amser hwn i ddechrau cynllunio ein digwyddiadau mawr - Her Aber, Gwyl y Cymdeithasau, Gwyl y Celfyddydau a Gwobrau’r Cymdeithasau. Yn bwysicaf oll, rydyn ni dal i fod yma ar gyfer myfyrwyr os ydyn nhw ein hangen ni! Mae gan aelodau o bwyllgorau gwestiynau y mae angen eu hateb o hyd; mae angen cymorth arnynt i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac ar y cyfan, mae angen cefnogaeth ar fyfyrwyr o hyd.