TîmAber yn adlewyrchu ar 2020-21

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae eleni, yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, wedi profi mor anhygoel y gall ein cymdeithasau a'n clybiau fod. Maent wedi goresgyn cymaint o ansicrwydd, gan addasu i sefyllfaoedd sy'n newid yn gyflym a chanfod cymaint o ffyrdd â phosibl i barhau â'u gweithgareddau. Mae teulu Tîm Aber wedi gwneud gwaith rhagorol o gadw cymuned y myfyrwyr gyda'i gilydd a sicrhau nad oedd unrhyw un o blith poblogaeth y myfyrwyr i gael eu gadael ar ôl.

Mae wedi bod yn anhygoel gweld holl weithgareddau ein grwpiau myfyrwyr yn mynd yn eu blaenau, gyda chymaint ohonyn nhw sydd wedi ffynnu eleni gyda'u haelodaeth a'u cyfleoedd. Er gwaethaf yr holl rwystrau a wynebwyd, rydym wedi cofnodi amryw o lwyddiannau; o ddigwyddiadau a chystadlaethau RAG a drefnwyd gan fyfyrwyr, i'w cyfranogiad mewn digwyddiadau a drefnwyd gan yr UM fel Gwyl y Celfyddydau, Her Fawr Aber, Rhyngolgampau Farsiti a Gwyl y Cymdeithasau; ni fyddai unrhyw un o’r rhain wedi digwydd heb waith anhygoel tîm yr UM a chorff y myfyrwyr.

Ymhlith y llu o ddigwyddiadau gwych a gynhaliwyd, hoffem dynnu sylw at lwyddiant anhygoel yr Wyl Celfyddydau gyntaf erioed, a drefnwyd gyda chymorth amhrisiadwy ein myfyrwyr, yn ogystal ag ymgysylltiad rhagorol trwy gydol ein gweithgareddau ar-lein fel Her Fawr Aber a Farsiti. Roedd yna hefyd berfformiad anhygoel gan y grwpiau dawns fel Showdance a Kpop yn eu priod feysydd, yn ogystal â theimlad cymunedol eithriadol gyda'r cynllun 'Pacio Parsel', a olygodd bod anrhegion Nadolig ar gael i lawer o drigolion cartrefi gofal ledled Ceredigion.

Diolch i'r lefel hon o ymrwymiad, brwdfrydedd a chreadigrwydd, rydym wedi cael blwyddyn mor llwyddiannus, er gwaethaf yr holl anawsterau y mae'r byd yn eu hwynebu. Mae'n ysbrydoledig ac yn rymusol gweld ymroddiad ein holl glybiau chwaraeon a’n cymdeithasau, yn enwedig dan amodau anodd ar adegau. Gan ddyfynnu’r meddyliwr ac athronydd Seneca - y peth dewraf welwch chi yn y byd yw dyn mawr yn brwydro yn erbyn adfyd.

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i'n grwpiau myfyrwyr, ond fel y gwelwn, maen nhw wedi bod ar eu gorau wrth ymdopi â’r amgylchiadau anodd hynny. Hoffai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ddiolch i bawb am eu dyfalbarhad a’u hymroddiad, gan wneud y flwyddyn yn un werth-chweil yn wyneb yr holl anawsterau.

Diolch am flwyddyn wych arall!

Wojtek

Swyddog Cyfleoedd i fyfyrwyr 2020-21

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576