Tîm Swyddogion Undeb y Myfyrwyr yn adlewyrchu ar 2020-21

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Am flwyddyn mae hi wedi bod! Fe ddechreuon ni ar ein blwyddyn fel swyddogion ar gyfer 2020/2021 trwy gael ein hethol i'r rôl ychydig ddyddiau cyn i Covid-19 effeithio ar brifysgolion ledled y byd; doedden ni ddim yn sylweddoli beth yn union yr oedden ni wedi ymrwymo i’w wneud.

Fodd bynnag, credaf fod yr heriau a daflwyd at ein tîm wedi ein gwthio i weithio'n galetach ac yn well nag oedden ni erioed wedi dychmygu.

  • Tua dechrau’r tymor, buom yn gweithio gyda'r brifysgol i sicrhau bod ein clybiau a'n cymdeithasau yn gallu cymdeithasu'n ddiogel wyneb-yn-wyneb i gadw ein myfyrwyr yn ddiogel o ran y pandemig, a hefyd eu hiechyd meddwl.
  • Er gwaethaf methu â chynnal y digwyddiad mawr yr oeddem wedi gobeithio amdano, fe wnaethom hefyd ymuno â'r brifysgol i ddathlu ailagor Pantycelyn.
  • Wrth i'n myfyrwyr rhyngwladol ddechrau cyrraedd Aberystwyth, roedd yn ofynnol i lawer ohonynt ynysu am bythefnos - felly buom yn gweithio'n galed i drefnu pecynnau llesiant ar gyfer y myfyrwyr hyn i’w croesawu a gwneud iddynt deimlo'n rhan o'n cymuned yn Aber. Fe wnaeth hyn hefyd ein hysbrydoli i fynd â phethau gam ymhellach ym mis Rhagfyr; darparwyd pecynnau Nadolig, anfonwyd parseli Nadolig at yr henoed ac anfonwyd nifer fawr o gardiau cyfarch, gan ledaenu ychydig o hwyl ar y Campws, a hynny mewn gwisgoedd braidd yn wirion. A pheidiwch ag anghofio i ni drochi ein swyddog cyfleoedd mewn ‘gync’ i godi arian, ochr-yn-ochr â llawer o glybiau a chymdeithasau, ar gyfer cronfa'r Hen Goleg!
  • Gan ein bod yn ymwybodol o’r holl heriau sy’n gallu wynebu myfyrwyr o ran dysgu cyfunol, buom hefyd yn gweithio gyda'r brifysgol i sicrhau bod amgylchiadau arbennig ac estyniadau ar gael yn rhwydd i fyfyrwyr, heb yr angen am ddarparu tystiolaeth.
  • Aethom ati hefyd i lobïo'r brifysgol i ehangu'r meini prawf ar gyfer cymhwysedd i 'Astudio o Gartref', gan ychwanegu iechyd meddwl, cyfrifoldebau gofalu, ac 'arall' at y rhestr o resymau derbyniol pam na fyddai myfyriwr yn dymuno dychwelyd i'r campws.
  • Wrth i'r tymor fynd yn ei flaen, symudwyd addysgu a chymdeithasu ar-lein dros-dro oherwydd y pandemig, a arweiniodd at fynd ati i sicrhau polisi rhwyd ddiogelwch / dim anfantais ar eich cyfer chi, gan roi tawelwch meddwl i chi pe bai pethau'n anodd, bod gennych chi gyfle i ail-sefyll eich asesiadau.

Rydym wedi wynebu blwyddyn uffernol ac rydym yn hynod falch o'r gwaith y mae'r UM wedi'i wneud eleni er gwaethaf Covid-19. Mewn gwirionedd ni allem ofyn am dîm gwell i fod yn rhan ohono, gan eu bod yn grwp mor ofalgar o unigolion sydd yn y pen draw yn rhoi myfyrwyr wrth galon popeth a wnânt.

Diolch i dîm UMAber 2020-2021 am fod yn chwa o awyr iach.

 

Nate, Chloe, Moc, Wojtek a Connor

Tîm Swyddogion UM Aber 2020-2021

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576