Teithio Myfyrwyr Rhyngwladol ar Gyfer Gwyliau'r Nadolig

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Teithio myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer gwyliau'r Nadolig

Rydym eisoes wedi derbyn nifer o ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch teithio adref ar gyfer gwyliau'r Nadolig eleni. Wrth reswm, mae hyn ychydig yn fwy cymhleth nag arfer eleni oherwydd y pandemig coronafeirws, felly roeddem yn meddwl y byddem yn casglu rhywfaint o wybodaeth ynghyd ac yn darparu rhai dolenni defnyddiol i chi er mwyn cynnig rhai o'r atebion sydd eu hangen arnoch chi. 

 

Cwestiynau cyffredin:

 

  1. A yw'r prawf y gallwn ei archebu yn y Brifysgol yn addas ar gyfer teithio rhyngwladol?

Y profion sydd ar gael o'r brifysgol ar gyfer diwedd tymor, yw profion antigen Llif Ochrol (LFT). Mae'r rhain yn canfod presenoldeb neu absenoldeb coronafeirws trwy osod sampl swab neu boer ar bad amsugnol y ddyfais. Mae'r sampl yn llifo ar hyd wyneb y pad, gan ddangos canlyniad gweledol cadarnhaol neu negyddol yn dibynnu ar bresenoldeb y feirws. Fel arfer, gofynnir i’r sawl sy’n cael prawf LFT positif neu sy’n dangos symptomau i drefnu prawf PRC i gadarnhau hynny; mae hwn yn canfod presenoldeb y feirws yn eich corff trwy ddod o hyd i ddeunydd genetig COVID-19 yn eich trwyn / gwddf.

Byddai angen i chi wirio'r wlad rydych chi’n teithio iddi am y math o brawf sydd ei angen arnoch cyn teithio; gallwch wneud hyn yma: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice.

 

Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol gwiriwch y gofynion ar gyfer teithio rhyngwladol a osodwyd gan y wlad rydych chi’n dychwelyd iddi. Mae’n bosib na fydd y profion Llif Ochrol am ddim yn eich galluogi i deithio dramor. Fel arfer, profion Covid-19 PCR negyddol gaiff eu derbyn gan y cwmnïau hedfan, a gallwch archebu a thalu am y rhain ar-lein gan amryw o gwmnïau, gan gynnwys:

Dylech hefyd siarad â’ch cwmni yswiriant teithio, gwirio’r datblygiadau diweddaraf gyda’ch cwmni hedfan, ac ni ddylech byth deithio os oes gennych chi symptomau coronafeirws.

 

  1. A oes angen i chi gael prawf cyn teithio'n rhyngwladol?  

Nid yw profion COVID-19 at ddibenion teithio rhyngwladol ar gael dan y GIG. Mae’n bosib y bydd profion COVID-19 cyn teithio ar gael yn y sector preifat; fodd bynnag, gall prosesau profi preifat a chywirdeb y canlyniadau amrywio.

 

Dylai myfyrwyr fod yn glir bod proses a chywirdeb unrhyw brawf y gallant ei brynu’n breifat yn cyfateb i'r hyn sy'n ofynnol gan y wlad maen nhw’n teithio iddi cyn gwneud taliad. 

https://www.fitfortravel.nhs.uk/advice/disease-prevention-advice/coronavirus-disease-covid-19  

 

  1. Ble alla i ddod o hyd i wybodaeth am gyfyngiadau teithio i mewn ac allan o wledydd eraill?

Mae llywodraeth y DU yn cadw rhestr o wledydd sydd ddim yn ei gwneud yn ofynnol i chi ynysu am unrhyw gyfnod, a gallwch ddod o hyd i’r rhestr honno yma: https://www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-travel-corridors#stay-up-to-date

Gallwch hefyd ddod o hyd i wledydd sydd wedi'u tynnu oddi ar y rhestr oedd wedi’u heithrio.

 

Mae gan British Airways restr gynhwysfawr ar gael yma hefyd: https://www.britishairways.com/ga-gb/information/incident/coronavirus/entry-requirements.

 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, defnyddiwch linell gymorth coronafeirws bwrpasol y Brifysgol trwy ffonio 01970 622483 neu e-bostiwch coronavirus@aber.ac.uk.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576