THIS GIRL CAN - Dydd 3

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Blogs Wythnos THIS GIRL CAN, nesaf yw Helen Miles! 

  1.        Dywedwch ychydig amdanoch chi gan gynnwys eich profiad o gyfrifiadureg…

Dwi'n ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ac yn ymchwilio i graffeg cyfrifiadurol, realiti rhithwir yn benodol. Des i Aber yn 2014 i weithio ar brosiect ymchwil, mwynheais i'n fawr a dwi wedi bod yma ers hynny! 

Dwi wedi bod yn rhan o brosiectau dros y blynyddoedd - gan gynnwys chwaraeon realiti rhithwir, archeoleg ddigidol, y Clwb Roboteg, ac yn ddiweddar, cenhadaeth ESA/Roscosmos ExoMars 2020 i'r blaned Mawrth... yn wir, gall cyfrifiadureg fynd â chi ar bob math o lwybrau!

  1.        Fel menyw, ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau neu rwystrau wrth ddilyn eich diddordeb mewn cyfrifiadureg?

Yn anffodus, ydw. Awgrymwyd i mi fwy nag unwaith bod fy rhywedd (a fy ngallu i siarad Cymraeg) yn rhoi mwy o gyfleoedd i mi nag eraill, ond ar yr un pryd mae pobl wedi gwrthod cyfleoedd i mi am yr un rheswm. Ar lefel genedlaethol, dim ond tua 15% o fyfyrwyr cyfrifiadureg sy'n fenywod, ac yn ystod fy astudiaethau israddedig, fi oedd yr unig fenyw ar fy nghwrs, ac roeddwn i'n unig iawn ar adegau. Fodd bynnag, mae Adran Gyfrifiadureg Aber yn adran wych i weithio ynddi: mae tua thraean o'r darlithwyr yn fenywod ac rydyn ni'n gweithio'n galed i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn yr adran i'w gwneud hi'n lle teg, cyfeillgar a gwych i'n holl staff a myfyrwyr.

  1.        Oes menyw benodol sy'n eich ysbrydoli neu sydd wedi dylanwadu ar eich bywyd?

Fy nghydweithiwr, Dr Hannah Dee, sy'n uwch ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Aber. Hi oedd fy mentor dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hi'n ddarlithydd, ymchwilydd, allgynorthwyydd gwych ac yn eiriolwr anhygoel i fenywod ym maes cyfrifiadureg. Sefydlodd hi Golocwiwm BCSWomen Lovelace, cynhadledd undydd flynyddol i fenywod ym maes cyfrifiadureg, pan oedd hi'n fyfyriwr PhD. Mae'r gynhadledd bellach yn ei 12fed flwyddyn yn olynol ac mae 200+ o bobl yn mynychu! Ddwy flynedd yn ôl, rhoddodd hi awenau'r gynhadledd i mi - dwi wedi ei chael hi'n anodd ar brydiau, ond mae hi'n fy nghefnogi bob cam o'r ffordd.

  1.        Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fenywod eraill sy'n ystyried STEM ond sy’n ansicr a fyddai hynny’n addas iddyn nhw?

Peidiwch â gadael i unrhyw beth eich atal. P'un a ydych chi am fod yn rhaglennydd, yn robotydd, yn ffisegydd damcaniaethol, yn beiriannydd awyrofod neu am ddilyn unrhyw un o'r miliynau o yrfaoedd gall STEM arwain atynt, rydych chi'n ddigon da! Mae bywyd yn fyr, mae'r bydysawd yn enfawr - dewch o hyd i rywbeth sy'n eich gwneud chi'n hapus a grwp o bobl sy'n debyg i chi a fydd yn eich cefnogi.

 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576