Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant y Brifysgol
Rydym yn ymwybodol iawn bod iechyd meddwl a llesiant yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb, ac felly rydym yn falch o rannu Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant newydd y Brifysgol.
Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant
Mae’r strategaeth wedi'i datblygu dros y 12 mis diwethaf gydag adborth gan fyfyrwyr a staff, yn ogystal ag arfer gorau gan brifysgolion ledled y DU, a gobeithiwn y bydd yn gam cyntaf mewn sgwrs barhaus am iechyd meddwl a llesiant, lle byddwn yn parhau i ddylanwadu'n gadarnhaol ar waith y Brifysgol.
Nod strategaeth Undeb y Myfyrwyr yw i fyfyrwyr fod yn hapus ac yn iach, ac eleni rydym eisoes wedi gweithio i sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant wrth galon ein gwaith, gan gynnwys:
- Cefnogi lansiad Student Space, sydd â’r nod o helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod y pandemig coronafeirws.
- Cymryd rhan yn Student Minds SUs,, sef rhaglen a gynlluniwyd i roi cymorth i Undebau Myfyrwyr ddod yn arweinwyr ym maes iechyd meddwl.
- Newid Codi Arian a Rhoi (RAG) fel bod yr arian sy’n cael ei godi bellach yn mynd tuag at weithgareddau a phrosiectau i gynorthwyo llesiant myfyrwyr.
- Paratoi pecynnau llesiant ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n cyrraedd a myfyrwyr sy'n hunan-ynysu.
Ond rydyn ni'n ymwybodol bod llawer mwy i'w wneud o hyd, ac felly rydyn ni'n croesawu adborth ar y strategaeth newydd a syniadau am sut rydyn ni'n mynd ati i gynnig cymorth i iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr. Os oes gennych chi adborth, e-bostiwch umllesiant@aber.ac.uk
Eich Tîm Swyddogion UMAber