Sialens Aber 2019 Adroddiad Newyddion

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio
Beach Clean

Eleni lansiodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ddigwyddiad newydd sbon Her Aber, a gynhaliwyd dros dridiau ym mis Tachwedd. Rhwng yr 8fed a’r 10fed o fis Tachwedd, bu deunaw tîm o bump yn cystadlu mewn gwahanol heriau. Roedd y disgyblaethau'n cynnwys cwis, 'adeiladu twr' mewn timau, helfa sborion, dodgeball, pêl-êl, gwyddbwyll, pocer, 'sgategorïau', Rasys Mario Kart a glanhau’r traeth ar arfordir Aberystwyth.

 

Roedd yn rhaid i'r cyfranogwyr gyfrannu syniadau, cydweithredu a gwneud eu gorau drwy gydol y twrnamaint tridiau cyffrous hwn. Roedd y safleoedd ar y tabl yn wahanol ar ddiwedd pob diwrnod, ac roedd popeth yn y fantol tan y gystadleuaeth olaf. Yn y diwedd, Cunning Stunts ddaeth i'r brig, ac yna Dixie Normus a ESN Aberystwyth.

 

Dathlwyd llwyddiant y digwyddiad gydag ôl-barti, a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Rhoddwyd pizza am ddim i bob tîm, a daeth y digwyddiad i ben gydag un  cwis olaf.

 

Mae'r adborth gan y cystadleuwyr ar ôl y digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol dros ben, gyda llawer yn dweud bod eu penwythnos wedi bod yn bleserus, yn gyffrous ac yn brofiad gwerth-chweil. Gan ystyried mai hon oedd y flwyddyn gyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal, mae'r trefnwyr yn falch o ddweud iddo fod yn llwyddiant mawr. Mae digwyddiad y flwyddyn nesaf yn sicr o fod yn fwy, yn well a hyd yn oed yn fwy amrywiol!

 

Yn ystod y digwyddiad cafodd y Swyddfa Cyfleoedd help gan dros ddeg ar hugain o wirfoddolwyr, ac roedd eu cyfranogiad yn hanfodol i lwyddiant y digwyddiad. Helpodd clybiau a chymdeithasau myfyrwyr Aberystwyth i drefnu, cynnal a dyfarnu'r digwyddiadau. Diolch yn arbennig i Gymuned Gemau Aberystwyth (ACOG), Clwb Dodgeball Aberystwyth, Cymdeithas Tickled Pink a Thîm Uni Boob Aberystwyth, Cymdeithas Pêl-êl Aberystwyth, Cymdeithas Gwyddbwyll Aberystwyth, Cymdeithas Ffotograffiaeth Aberystwyth a gwirfoddolwyr o'r Tîm-A. 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576