Sefyll i fod yn Gynrychiolydd Academaidd

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Os ydych chi am wneud newidiadau yn eich adran, cwrdd â phobl newydd a gwella'ch sgiliau, Cynrychiolydd Academaidd yw'r rôl berffaith i chi!

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn bwysig iawn o ran llais y myfyrwyr a sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio i'r eithaf ar eu cyfnod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel Cynrychiolydd Academaidd, byddwch chi'n helpu i gadw’ch cyd-fyfyrwyr yn gyfoes â’r newidiadau sy'n digwydd yn eu haddysg a sicrhau mai myfyrwyr sydd â’r gair olaf.

Fel Cynrychiolydd, eich prif rôl yw casglu adborth gan y myfyrwyr ar eich cwrs a rhannu hwn gyda’ch adran drwy fynychu PYSMau (Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr). Mae PYSMau'n cael eu cynnal 3-4 gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd, ac maen nhw'n gyfle gwych i sbarduno gwir newid o fewn adrannau a thrwy’r brifysgol gyfan. Hefyd fel Cynrychiolydd Academaidd, byddwch chi’n mynychu Parth Academaidd yr Undeb sy'n cael ei gadeirio gennyf fi fel Swyddog Materion Academaidd. Mae hyn yn helpu i ddylanwadu ar bolisïau academaidd yr Undeb.

Mae bod yn Gynrychiolydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a'r staff yn ogystal â dod yn bartner o fewn eich adran. Byddwch chi hefyd yn datblygu amryw sgiliau sy’n ddeniadol iawn i gyflogwyr. Ymhlith y sgiliau hynny mae arwain, negodi a chyfathrebu. Bydd hyd yn oed cyfle i ambell gynrychiolydd i gadeirio eu PYSMau. Bydd hyn oll yn eich helpu chi i sefyll allan o'r dorf wrth wneud cais am swyddi.

Bydd Undeb y Myfyrwyr gerllaw gydol eich cyfnod fel Cynrychiolydd Academaidd a chewch gymorth ganddyn nhw ar bob cam, o sefyll i’r hyfforddiant cychwynnol a’r tu hwnt. Byddwn ni'n cynnig sesiwn hyfforddiant cychwynnol i bob Cynrychiolydd ar ddechrau eich cyfnod yn y rôl er mwyn rhoi cyflwyniad i’r rôl ac esbonio popeth yn ogystal â rhoi cyfle i chi ddod i adnabod y Cynrychiolwyr eraill. Gydol y flwyddyn, bydd modd i chi gofnodi'ch gwaith caled fel oriau gwirfoddoli a bydd yr oriau hyn yn cael eu cydnabod ar ddiwedd y flwyddyn gan Wobr Aber. Bydd cyfle hefyd i chi gael eich enwebu ar gyfer Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn yn ein Gwobrau Staff a Myfyrwyr ddiwedd y flwyddyn!

Mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mwynheais i hyn yn fawr pan oeddwn i’n fyfyriwr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, galwch heibio'r Undeb neu e-bostiwch fi ar umacademaidd@aber.ac.uk.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576