Enw: Jacob Webb
Rôl: Pennaeth Llais Myfyrwyr
Ble mae eich Cartref?:
Dyna gwestiwn dwys ac athronyddol... Ces i fy magu ym Malvern, Swydd Gaerwrangon (Worcestershire) ond bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth – ac yn ei garu!
Eich pryd olaf ar y ddaear...beth sydd ar y fwydlen?:
Rhywbeth i fy nghadw i fynd tan fy mod i’n cyrraedd ar blaned y gellir byw arni.... Byddai’n well gen i beidio â meddwl am fy angladd.
Y tu allan i’r gwaith, beth yw eich hoff ddiddordebau?:
Y tu allan i’r gwaith, rwy’n rhedwr brwd ac yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol creadigol fel corau, gwersi paentio, a grwpiau improv a chomedi.
Beth ydych chi’n caru am weithio yn Aberystwyth?
Mae cymaint i’w garu am fyw a gweithio yn Aberystwyth! Y tu hwnt i’r pleserau amlwg o fyw ar lan y môr gyda natur o’ch amgylch, rwy’n caru’r ffaith fod gan Aber ystod mor eang o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous trwy gydol y flwyddyn.
Tasech chi ddim yn eich rôl UM... beth fyddech chi?:
Rwy wastad wedi caru’r syniad o fod yn gantor/cyfansoddwr proffesiynol. Roeddwn yn perfformio llawer o fy ngherddoriaeth fy hun yn fy arddegau ac ar ben hynny cyrhaeddais i y rownd terfynol yng nghystadleuaeth dalent fy ysgol nifer o weithiau. Yn anffodus, wnaeth pethau byth barhau o hynny ymlaen fodd bynnag...
Cyn gweithio yma, ydych chi wedi cael llawer o brofiad gydag undeb myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?:
Pan yn astudio ym Mhrifysgol Efrog, bues i’n gweithio fel Swyddog Gwirfoddol yr Amgylchedd a Swyddog Gwirfoddol Moeseg. Yma gweithiais i gynyddu nifer yr opsiynau figan ar gael yn y ffreuturau, a chyflwyno polisi i’r Undeb gael gwared ar dagiau plastig.
Dros y 3 blynedd ddiwethaf, rwy wedi gweithio fel y Cydlynydd Cynrychiolaeth a Pholisi yn yr Undeb o Fyfyrwyr Brunel, yn goruchwylio eu Prosiect Cynrychiolwyr Academaidd, rhoi cymorth i Swyddogion etholedig, a gweithio ar sawl tasg yn ymwneud â pholisi.
Rhowch ffaith ddiddorol amdanoch chi i ni (rhywbeth a allai fod yn syndod i bobl):
Er ei bod hi’n anodd weithiau, rwy’n ffan mawr o Manchester United!
Pam wnaethoch chi ymuno â’r tîm yma yn UMAber?:
Ymunais i gymryd rôl gyffrous mewn sefydliad blaengar ei feddylfryd, mewn lleoliad hardd ac unigryw iawn.