Mae teulu o staff yr UM yn gweithio y tu ôl i'r llenni i gynorthwyo'r tîm swyddogion, gan sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.
Rydym yn falch o gael croesawu tri wyneb newydd i dîm staff UMAber ers dechrau'r flwyddyn academaidd hon.
Fe gawsom gyfle i ofyn rhai cwestiynau i’r tair ohonyn nhw, er mwyn dod i'w hadnabod ychydig yn well...
Yn gyntaf, dyma Alice, a ymunodd â ni fel y cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth newydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon.
Mae Alice yn rhan o'r tîm Cymorth a Chynrychiolaeth yma yn yr UM ac mae rhannau o'i rôl yn cynnwys cynllunio a chynnal Etholiadau, ymgyrchoedd a phrosesau democrataidd yr UM.
Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun:
Graddiais o Warwick ym mis Mehefin gyda gradd mewn hanes, ond mae fy nghariad at bwer cyfunol wedi bodoli ers i mi ymuno â fy ngorymdaith Hawlio’r Nos yn Ôl gyntaf.
Ble mae dy gartref?
Cefais fy magu yn ardal Caergrawnt, bûm yn byw yn Leamington Spa pan oeddwn i yn y brifysgol a nawr rydw i yn y broses o wneud fy fflat mewn atig yn Aber yn gartref.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Vegan Pad Thai neu unrhyw beth gyda menyn cnau-daear heb olew palmwydd
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Nofio yn yr awyr agored, gwrando ar bodlediadau gwleidyddol, beicio, gwylio unrhyw fath o theatr, ac wrth gwrs Rhedeg yn y Parc, pryd bynnag y bydd hynny'n dychwelyd!
Beth wyt ti’n gobeithio ei gyflawni yn ystod dy fisoedd cyntaf?
Mwynhau popeth sy’n ymwneud â byw ar lan y môr a mynd i weld mwy o Gymru
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Gweithio mewn rôl ymgyrchu gydag elusen fach neu o bosibl yn fargyfreithiwr mewn bywyd arall
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Yn y brifysgol, doeddwn i ddim wedi bod â llawer o gysylltiad â'r UM, ond roeddwn yn ymwneud cryn lawer â gwaith ymgyrchu, yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd a hinsawdd. Rwyf hefyd yn Llysgennad dros Rwydwaith Amgylcheddol y Menywod, yn cyflwyno gweithdai ar fislif di-blastig i grwpiau myfyrwyr.
Croeso i deulu’r UM, Alice!