Peidiwch  Rhuthro, Mae Gennych Chi Amser O Hyd

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae yna ddigon o gyfleoedd i ganfod lle i fyw yma yn Aberystwyth, p'un a ydych chi’n chwilio am lety preifat neu le yn un o neuaddau’r brifysgol. Beth bynnag y bo, mae digon o amser o hyd i ddewis y lle perffaith i chi. Yn ôl ein harolwg ‘Caru, Casáu, Barnu’, mae 27% o fyfyrwyr yn teimlo dan bwysau i arwyddo am dy yn gynnar. Felly, os ydych chi'n teimlo pwysau gan ddarparwyr, neu'n ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniad yng ngoleuni Covid-19, pwyllwch. Yma yn Undeb y Myfyrwyr gall ein cynghorwyr eich helpu chi i wneud y penderfyniad sydd orau i chi.

O'r arolwg, mae'n werth nodi bod 15% o fyfyrwyr wedi arwyddo ar gyfer llety rhwng Hydref a Rhagfyr, ond bod 85% o fyfyrwyr heb arwyddo tan y misoedd rhwng Ionawr a Medi, sy’n golygu y bydd digonedd o dai ar gael o hyd trwy gydol y flwyddyn. Gall cymryd eich amser i arwyddo eich galluogi i ddod i ddeall go iawn yr hyn rydych chi ei eisiau o eiddo, o delerau'r contract i'r bobl y gallech chi fod yn byw gyda nhw.

Yn enwedig os mai hon yw'ch blwyddyn gyntaf yn Aberystwyth, efallai mai dim ond ers tua 6 wythnos rydych chi wedi adnabod myfyrwyr eraill mewn gwirionedd; mae hynny'n gyfnod anhygoel o fyr i wybod yn sicr a yw'r rhai rydych chi'n ystyried byw gyda nhw am y flwyddyn nesaf y bobl iawn i rannu ty gyda nhw. Gwnewch yn sicr eich bod chi'n byw gyda myfyrwyr sy'n mynd i fod yn gefn i’w gilydd gydol y flwyddyn; pobl y byddwch chi'n mwynhau byw gyda nhw!

Cofiwch fod arwyddo ar gyfer llety yn ymrwymiad mawr, ac o ystyried y sefyllfa bresennol o ran Covid-19, rwy'n siwr y bydd gennych chi lawer o gwestiynau am beth i'w wneud nesaf. Mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd eich amser ac yn gwneud penderfyniad gwybodus am y flwyddyn nesaf. Wedi'r cyfan, mae contractau'n creu oblygiadau cyfreithiol, ac mae’n anodd iawn dod allan ohonynt, beth bynnag fo’r amgylchiadau.

Ond yn bwysicaf oll, cofiwch fod arwyddo cytundeb ar gyfer llety yn brofiad gwych pan fyddwch chi a'ch ffrindiau yn darganfod y lle byddwch chi'n creu atgofion gyda’ch gilydd am flwyddyn arall, felly sicrhewch eich bod chi'n mwynhau’r broses o ddod o hyd i'r lle perffaith i chi.

Gyda chariad, Connor - Swyddog Llesiant yr UM 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576