Wrth i’r Nadolig nesáu, mae’n gallu bod yn anodd i beidio colli arnoch eich hun gyda ‘hwyl yr wyl’. Yn gyntaf, mae dathliadau Nadolig y clybiau a’r cymdeithasau. Ac wedyn y dala lan yn ystod y Nadolig gyda ffrindiau, ac yn syth ar ei ôl, dathlu gyda’r teulu – a daw hyn i gyd cyn cyrraedd Nos Galan. Mae’n hawdd gweld sut mae yfed yr holl unedau mewn diodydd yn prysur gynyddu. Yr un peth sy’n llai clir yw’r effaith mae’n cael ar eich iechyd. Dyma rai awgrymiadau ar sut i yfed yn gall dros y Nadolig!!
- Gosodwch Ddiwrnodau Dialcohol sawl gwaith yr wythnos lle nad ydych chi’n yfed. Bydd hyn yn eich helpu i leihau’r maint rydych chi’n yfed.
- Osgowch sefyllfeydd lle mae eraill yn rhoi pwysau arnoch chi, nid yw’n werth ei wneud a pheidiwch ag ildio iddyn nhw.
- Peidiwch ag yfed gyda bola gwag. Mae bwyta pryd llawn cyn mynd allan neu ddechrau yfed a snaciau rhwng diodydd yn gallu arafu’r alcohol mae eich corff yn cymryd, a’ch helpu i reoli eich hunan.
- Byddwch yn gyfrifol pan yn yfed cyn mynd allan a chadwch mewn cof y maint rydych chi’n bwriadu yfed pan allan.
- Rhowch gynnig ar ddiodydd alcohol isel neu ddi-alcohol.
- Os ydych chi’n mynd i barti Nadolig, cynlluniwch sut ydych chi’n mynd adref, gyda thacsi trwyddedig a gyda phobl rydych chi’n eu trystio.
Cofiwch y gall unrhyw un deimlo’n yn fregus yn ystod y cyfnod hwn.
Mae tua thri-chwarter (61%) o yfwyr yn y DU yn dweud eu bod yn goryfed yn ystod y gwyliau, gydag un mewn pump (18%) yn profi sgileffeithiau gwaeth ar ôl yfed dros y cyfnod hwn. Byddwch yn ddiogel dros y gwyliau hyn.
Gellir cael mwy o wybodaeth am defnydd alcohol a chyffuriau ar ein gwefan, yn cynnwys dolenni i’r gwasanaethau cymorth perthnasol!
Hwyl,
Sabina (Llywydd Undeb)