Mae cynrychiolwyr academaidd yn cael eu hethol i'w rôl; myfyrwyr ydyn nhw, sy'n gweithio gyda staff a myfyrwyr i helpu â sicrhau bod eich addysg yn Aberystwyth y gorau y gall fod. Eleni roedd gennym ni 216 o fyfyrwyr mewn rolau Cynrychiolwyr Academaidd ar draws pob adran.
Mae Cynrychiolwyr Academaidd wedi...
- Mynychu pob un o'u PYSM ar-lein ac maent wedi llwyddo i gyflwyno adborth myfyrwyr a gweithio gyda staff i helpu â datrys unrhyw anawsterau.
- Siarad yn uniongyrchol â'n Swyddog Materion Academaidd a darparu adborth trwy gyfarfodydd dal-i-fyny ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd ac yn y Parthau.
- Wedi helpu i gyflwyno adborth mewn nifer o grwpiau ffocws ynghylch profiad myfyrwyr yn ystod y pandemig, dysgu ac addysgu ar-lein a’r ddarpariaeth gan y gwasanaeth gwybodaeth
- Mynychu ein Gwyl Cynrychiolwyr Academaidd gyntaf, oedd yn gyfle i gynnal gweithdai a thrafodaethau i helpu cynrychiolwyr i ddatblygu eu rôl, yn ogystal â meithrin sgiliau pellach.
Mae gwirfoddolwyr yn Aberystwyth yn cwmpasu ystod amrywiol o rolau, ac mae Undeb y Myfyrwyr yn helpu i hwyluso cyfleoedd gwirfoddoli yn yr UM a'r gymuned leol.
Mae’r canlynol ymhlith y cyfleoedd gwirfoddoli a gynhaliwyd eleni…
- Bu 71 o wirfoddolwyr Tîm-A yn helpu i sicrhau wythnos y glas lwyddiannus, gan gynnig cymorth i wirfoddolwyr Sant Ioan gyda phatrolau yn ystod y nos yn y dref, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn ddiogel
- Ymgyrch Pacio Parseli, a olygodd bod 50 o gardiau Nadolig wedi'u hysgrifennu a 32 parsel yn cael eu rhoi gan fyfyrwyr i drigolion cartrefi gofal a fyddai'n elwa o dderbyn anrheg Nadolig
- Sefydlwyd grwp cyfeillgarwch ar gyfer galwadau Ail-gysylltu, gyda myfyrwyr bellach yn gwneud galwadau ffôn i bobl hyn sy’n unig ac yn ynysig, gan gynnig cyfeillgarwch a chyswllt?
- Mae gwirfoddolwyr wedi bod wrthi’n glanhau’r traeth dair gwaith, pan oedd yn bosibl cynnal gweithgareddau wyneb-yn-wyneb.
Eleni mae dros 4,000 o oriau wedi cael eu cofnodi fel rhan o Wobr Aber, ac ar 21ain Mai, byddwn yn dathlu'r rhai sydd wedi cyflawni un o'n cerrig milltir ar gyfer cydnabod gwirfoddolwyr, sef Efydd, Arian neu Aur!