Sut Mae Pawb!
Mae newidiadau pwysig yn digwydd yn system fenthyca a dirwyo’r llyfrgell sy’n dod i rym ar 24 Medi 2018.
Rydyn ni yn Undeb y Myfyrwyr a’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi creu gwasanaeth mwy hyblyg, teg ac ymatebol i bawb sy’n defnyddio’r llyfrgell.
Daw 3 phrif newid i rym:
- Cewch fenthyca'r rhan fwyaf o lyfrau am 1 wythnos a bydd hyn yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig bob wythnos tan y bydd eu hangen ar rywun arall, neu ar ôl 6 mis.
- Cewch eich dirrwyo dim ond os na fyddwch chi’n dychwelyd y llyfr pan gaiff ei alw'n ôl gan ddefnyddiwr arall neu os na fyddwch chi’n dychwelyd y llyfr i'r llyfrgell ar ôl 6 mis.
- Gall holl staff a myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig y Brifysgol fenthyca hyd at 40 o lyfrau ar unrhyw adeg
Y manteision yw:
- Mae’n disodli cyfnodau benthyca o 2 wythnos, 3 diwrnod a 24 awr gydag un cyfnod syml o fenthyca am 1 wythnos sy'n golygu bod benthyca llyfrau’n llawer haws ac yn eich gwneud chi’n llai tebygol o gael dirwy.
- Dim ond os bydd angen y llyfrau ar ddefnyddiwr arall y bydd angen i chi eu dychwelyd
- Mae'n symleiddio'r rheolau o ran nifer y llyfrau mae modd eu benthyca, gan osgoi dryswch diangen
- Mae’n sicrhau mynediad cyfartal a chysondeb i'n defnyddwyr
Rydyn ni yn Undeb y Myfyrwyr yn ystyried y newidiadau hyn yn gadarnhaol gan eu bod nhw’n lleihau nifer y myfyrwyr sy’n cael dirwyon ac maen nhw’n eich galluogi chi i gael mwy o lyfrau ar yr un pryd.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y newidiadau hyn, dwi'n eich annog i anfon e-bost ataf i ar umacademaidd@aber.ac.uk a bydd hi’n braf cael eu clywed.
Cofion Cynnes
Meg
UMAber Materion Academaidd