Mae angen eich help arnom!
Mae Myf.cymru yn brosiect cenedlaethol, newydd sydd wedi cael y dasg o greu adnoddau cymorth iechyd meddwl a llesiant yn Gymraeg.
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i gymryd rhan mewn grwp ffocws, cynhyrchu cynnwys a siapio’r dulliau gorau o farchnata a hyrwyddo. Byddwch yn gweithio gyda grwp bach o fyfyrwyr eraill, ac yn cael y cyfle i ddarparu adborth a barn bersonol ar ein gwefan newydd sbon ac adnoddau eraill caiff eu datblygu fel rhan o’r prosiect er enghraifft gwaith dylunio, podlediadau a fideos.
Wrth gwrs, fydden ni ddim yn disgwyl i chi wneud hyn am ddim! I ddiolch i chi am eich amser, byddwn yn talu £10.65 yr awr i chi. Y cyfan rydym yn gofyn yw eich bod yn gweithio’n unol â’n telerau ac amodau, fel y gallwn ni gael yr adborth gorau posib.
I gofrestru diddordeb i fod yn rhan o’r prosiect, dilynwch i linc yma - https://forms.office.com/r/urwg74EHn0 Neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y prosiect, cysylltwch â ni ar myf.cymru@bangor.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!