Dyma DragonyMcDragonFace Bydd yn ymddangos yn aml mewn digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn - gwnewch yn siwr eich bod yn dweud helo. #RhyddhaurDdraig
Am fod yn Actor Masgot?
Mae gennym ni esgidiau mawr i'w llenwi - yn llythrennol! Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwd i wisgo siwt Masgot newydd UMAber mewn digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Bydd gwirfoddolwyr yn ymuno â thîm bach o ddefnyddwyr Masgot hyfforddedig - bydd galw arnynt yn ôl yr angen ar gyfer:
· Digwyddiadau mawr yr UM (e.e. Ffair y Glas)
· Gemau Cartref (e.e. Chwaraeon BUCS)
· Digwyddiadau perthnasol eraill fel Rhyngolgampau Farsiti.
Oherwydd cyfyngiadau maint gwisg y Masgot, ni allwn ond derbyn gwirfoddolwyr sy'n gallu ei gwisgo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Efallai y bydd gwirfoddolwyr talach neu braffach yn ei chael hi'n rhy anghyfforddus - os ydych chi'n ansicr, gofynnwch am gyfle i roi cynnig arni.
I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, dewch o hyd i rôl Actor Masgot ar ein tudalen cyfleoedd cyfredol yma:
www.umaber.co.uk/timaber/gwirfoddoli/cyfloeddcyfredol/
Cofiwch i'r Masgot gael ei gyflwyno yn dilyn syniad myfyriwr yn cael ei droi’n bolisi - os oes gennych chi syniad am unrhyw beth y gallai'r UM fod yn ei wneud - rhowch wybod i ni yma:
www.umaber.co.uk/llywioaber/eichsyniadau/