Ers 2017 rydym wedi gweithio'n galed i ailwampio ein hyfforddiant ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd ar draws y Brifysgol er mwyn eu cynorthwyo yn eu rôl. Bob blwyddyn rydym yn derbyn eu hadborth mewn ymdrech i wella eu profiad o hyfforddiant, ac rydym yn falch o weld bod 99% o’r rheiny oedd yn gynrychiolwyr am y tro cyntaf (cynnydd o 1.3%) a 100% o’r cynrychiolwyr oedd yn dychwelyd (cynnydd o 4.5%) wedi cael yr hyfforddiant yn ddefnyddiol.
Un o flaenoriaethau ein Swyddog Materion Academaidd eleni yw i “fyfyrwyr, staff a chynrychiolwyr ddeall a gwerthfawrogi pwrpas y system gynrychiolaeth academaidd a’u rôl ynddi.” Roedd yn galonogol felly gweld bod cynrychiolwyr yn teimlo bod hyfforddiant yn ysgogol, yn werthfawr ac yn ddefnyddiol; mae pob un o’r rhain yn bwysig, gan y dylai eich Cynrychiolydd Academaidd fod yn weladwy ac yn effeithiol gyda'u rôl.
DECHREUWYR
|
2017
|
2018
|
2019
|
17 vs 19
|
Ysgogol
|
35.77%
|
38.64%
|
40.74%
|
↑ 4.97%
|
Gwerthfawr
|
44.53%
|
49.24%
|
47.22%
|
↑ 2.70%
|
Defnyddiol
|
67.88%
|
67.42%
|
74.07%
|
↑ 6.19%
|
DYCHWELWYR
|
2017
|
2018
|
2019
|
17 vs 19
|
Ysgogol
|
36.36%
|
41.94%
|
41%
|
↑ 5.02%
|
Gwerthfawr
|
31.82%
|
38.71%
|
38%
|
↑ 6.11%
|
Defnyddiol
|
54.55%
|
35.48%
|
66%
|
↑ 10.97%
|
Gyda Chynrychiolwyr Academaidd wedi'u hyfforddi a chyfarfodydd cyntaf Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr (PYSM) wedi cael eu cynnal ar draws adrannau, gallwch nawr ofyn i'ch cynrychiolwyr pa adborth a godwyd a hefyd darganfod pa gamau sydd wedi'u rhoi ar waith, yn ogystal â beth arall a allai fod yn digwydd yn eich adran neu ar draws y Brifysgol!
Os ydych chi am gysylltu â'ch cynrychiolydd, gallwch nawr ddefnyddio “Darganfod Cynrychiolwyr” ar wefan UM - https://umaber.co.uk/llywioaber/cynrychiolwyrmyfyrwyr/darganfodcynrychiolwyr/
Cofiwch, mae eich cynrychiolwyr yn allweddol i’r broses o godi adborth yn eich adran ac o ganlyniad i'w rôl, maen nhw'n helpu i wneud eich addysg a'ch profiad yma yn Aberystwyth y gorau y gall fod!