Yn ystod yr 2il dymor, aeth Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ati i drefnu cyfres Her Fawr Aber oedd yn para am saith wythnos; y nod oedd annog myfyrwyr i gyfranogi mewn gweithgareddau cystadleuol. Oherwydd cyfyngiadau COVID roedd y digwyddiad yn gyfuniad amgen o Superteams a Her Aber, a oedd yn boblogaidd iawn. Gwahoddwyd myfyrwyr i gymryd rhan mewn sawl her, gan brofi eu sgiliau a chystadlu yn erbyn ei gilydd. Bob wythnos gwelwyd dau weithgaredd newydd, gyda'r enillwyr yn derbyn gwobr ar ffurf talebau ar gyfer ystod o fusnesau lleol a chenedlaethol.
Roedd y mathau o gystadlaethau'n amrywio, gan gynnwys heriau sgiliau a chreadigrwydd. Bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn heriau chwaraeon, pobi, gemau rhithwir, helfeydd sborion, ac aseiniadau creu fideo. Roedd llawer o'r digwyddiadau wedi’u cynllunio i annog myfyrwyr i gymryd rhan gyda ffrindiau, teulu a chydletywyr; yn ogystal â'u hannog i archwilio eu hardal leol a dod i adnabod Aberystwyth yn well.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cyfranogiad a’u cymhelliant. Dyma nhw’r enillwyr ar gyfer pob her:
Her y Styllen: Will
Noson Gemau Jackbox Holly
Her Strava Edward
Ffaith ddifyr: roedd 44 o gyfranogwyr ar gyfer yr her hon, a cherddwyd cyfanswm o dros 735.5 milltir / 1183.67km
Her Fideo: Ellie
Cystadleuaeth Bobi: Lissy
Ras gyfnewid 1 filltir x 4 Dynion: Ben, James, Ed ac Euz
Ras gyfnewid 1 filltir x 4 Menywod: Lois, Megan, Megan ac Emma
Ras gyfnewid 1 filltir x 4 Cymysg: Ben, Tifenn, Ed, ac Emma
Helfa Sborion: Sarah
Cyfeiriadu: Bruce
Her Bwrw’r Targed: Luke
Prawf Campfa: Sarah
Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr a'r rhai a gymerodd ran, a diolch yn fawr gan y Tîm Cyfleoedd i bawb a fu’n ymwneud â’r digwyddiad.