Dyna ni; blwyddyn arall wedi mynd a thîm swyddogion arall yn gorffen yn eu rolau. Heddiw rydyn ni'n dweud 'hwyl fawr' i'n tîm swyddogion llawn-amser ar gyfer 2019-2020.
Mae Chloe yn parhau fel swyddog Materion Academaidd ac mae Wojciech yn parhau fel Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr, ond dywedwn hwyl fawr i Dhan, Lydia a Tomos wrth iddynt symud ymlaen i’r bennod nesaf yn eu bywydau.
Fel y gwyddom, mae’r misoedd diwethaf wedi bod ychydig yn wahanol eleni, ac er nad yw hi wedi bod y flwyddyn yr oeddem wedi gobeithio amdani, cafwyd ambell uchafbwynt a chyflawnwyd rhai pethau y gallwn fod yn falch i edrych yn ôl arnynt o hyd.
Mae'r tîm wedi paratoi neges ffarwelio (drwy Zoom wrth gwrs - cymaint ag y byddem ni i gyd wedi bod wrth ein bodd yn ffarwelio wyneb yn wyneb yn iawn, ni fyddai’r canllawiau'n caniatáu hynny) ynghyd â chrynodeb byr o uchafbwyntiau'r flwyddyn.
Llongyfarchiadau i'r tîm swyddogion sy'n gadael am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni eleni, a diolch yn fawr am eich gwaith caled drwy gydol y flwyddyn.
Bydd y tîm swyddogion llawn-amser newydd yn ymgymryd â'u rolau yfory (1af Gorffennaf) a byddant yn treulio'r ychydig wythnosau cyntaf yn mynychu amryw o sesiynau hyfforddiant rhithwir. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno'r tîm swyddogion newydd yn iawn yn fuan.