#UMAberYnDathlu: Gwobr Cymdeithas y Mis

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Gwobr Cymdeithas y Mis

 

Mae’n bleser gan UMAber gyhoeddi mai enillwyr gwobr Cymdeithas y Mis ar gyfer Tachwedd 2020 yw Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth

Mae’r grwp hwn o fyfyrwyr wedi gweithio’n ddiflino, yn gofalu am diroedd o amgylch ardal Ceredigion, yn ogystal â gofalu am Ardd Gymunedol Prifysgol Aberystwyth.

Tynnodd un enwebydd sylw at eu gwaith, yn amrywio o sesiynau garddio, casglu sbwriel, cynnal a chadw gwarchodfa natur a gweithio yn y berllan ar gampws Gogerddan.  

Roedd yr enwebiadau’n cynnwys canmoliaeth am addasu’n gyflym i ofynion heriol Covid-19, ymgymryd â’u cyfrifoldebau i gadw’r ardal yn lân ac yn iach, trefnu sawl digwyddiad casglu sbwriel, a sicrhau bod holl aelodau’r grwp yn iach ac yn hapus yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Meddai un o'r enwebwyr: “Maen nhw wedi gwneud ymdrech ychwanegol yn y cyfnod anodd hwn, ac maen nhw’n cadw at bwrpas y gymdeithas, gan hefyd sicrhau bod eu haelodau’n ddiogel! Maent yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol wythnosol hwyliog ac yn darparu profiad ymarferol yn eu tasgau wythnosol. Cymdeithas wirioneddol wych, ac mae aelodau ei phwyllgor yn haeddu'r gydnabyddiaeth!”

Ar ben hynny, roedd Tîm y Swyddfa Cyfleoedd yn falch iawn o ddyfarnu’r wobr i Gymdeithas Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aber (ACV) am eu hymrwymiad gweladwy a'u hymroddiad i lesiant natur a myfyrwyr Cymuned Aberystwyth. 

Dywedodd Pwyllgor ACV: “Rydym yn ddiolchgar i’n holl aelodau am ddilyn yr holl reolau Covid newydd er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Y tymor diwethaf fe aethon ni ati i gynnal llawer o ddigwyddiadau i helpu ein cymuned, ac roedd hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael awyr iach ac i gysylltu â natur, sydd mor bwysig. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal llawer mwy o ddigwyddiadau cadwraeth yn y dyfodol!” 

Hoffai UMAber longyfarch Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth, gan ddymuno mwy o lwyddiant i'r grwp, a nerth yn y misoedd i ddod! 

Go dda chi i gyd! 

 

 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576