Gwobr Clwb y Mis
Mae'n bleser gan UM Aber gyhoeddi mai Clwb y Mis (Tachwedd) 2020 yw’r Dawnswyr Sioe Gerdd - Showdance!
Mae'r grwp hwn o fyfyrwyr wedi gweithio'n galed iawn i addasu i amgylchedd Covid-19, gan newid eu trefn ar gyfer hyfforddi, cynnal amryw o ddigwyddiadau rhithwir, a chodi arian at achosion anhygoel trwy gydol y mis!
Meddai un o'r enwebwyr: ''Hyd yn oed gyda’r holl gyfyngiadau ... oherwydd coronafeirws, mae Showdance eisoes wedi gwneud ymdrech eleni i helpu eraill trwy godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen gyda’u digwyddiad 'Tapathon' ac yn y cwis a gynhaliwyd i godi arian i adnewyddu'r Hen Goleg. '
Roedd yr enwebiadau hefyd yn cynnwys disgrifiadau manwl iawn o bolisi hollgynhwysol y clwb, eu hagwedd groesawgar, a’u holl ddosbarthiadau ar-lein, a oedd yn cadw aelodau'n hapus ac yn iach yn ystod y cyfnod ynysu.
'Pan gafodd llawer o bethau eu canslo oherwydd y cyfnod clo, fe aethant ati i ddarparu hyd at 5 dosbarth yr wythnos ar-lein i ganiatáu i bobl ddal ati i ddawnsio a chadw’n bositif ac yn frwd; hyn yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol wythnosol gyda gweithgareddau wedi'u trefnu'n dda er mwyn i bobl allu cymryd rhan ynddyn nhw trwy MS Teams.''
Mae'r Tîm Cyfleoedd wedi gweld ymroddiad y clwb ers dechrau'r flwyddyn academaidd, trwy'r digwyddiadau rhithwir a gynhaliwyd yn ystod Wythnos y Glas, a'r ymrwymiad parhaus i ddarparu hyfforddiant a digwyddiadau cymdeithasol sy’n ennyn diddordeb eu haelodau.
Ymateb Pwyllgor Showdance oedd: "Mae'r pwyllgor i gyd yn hynod falch o dderbyn y gydnabyddiaeth hon am ein gwaith caled a'n hymroddiad yn ystod y semester cyntaf! Er gwaethaf y ffaith fod hwn yn ddechrau rhyfedd iawn i'r flwyddyn, rydym wedi bod wrth ein bodd yn gallu dawnsio a chymdeithasu gyda'n holl aelodau, er bod hynny’n rhithwir. Hoffem ddiolch i'n holl aelodau a phawb sydd wedi parhau i gefnogi Showdance."
Mae'r ymrwymiad a'r ymroddiad, nid yn unig i'w haelodau, ond hefyd i'r achosion elusennol y maent wedi ymgysylltu â nhw, yn eu gwneud yn gwbl haeddiannol o'r wobr hon.
Hoffai’r Tîm Cyfleoedd longyfarch Dawnswyr Sioe Gerdd - Showdance, a dymuno mwy o lwyddiant iddyn nhw, yn ogystal ag egni cadarnhaol yn y misoedd i ddod!
Go dda chi i gyd!