Mae modd gwneud cais i fynychu'r Gwersyll Arweinwyr y Dyfodol cyntaf gyda chefnogaeth Cronfa Aber nawr.
Bydd yn digwydd dros benwythnos 15 – 17 Chwefror 2019 yng Nghanolfan Breswyl yr Urdd yn Llangrannog.
Mae'r gwersyll preswyl RHAD AC AM DDIM hwn ar agor i holl wirfoddolwyr Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â'r rheiny sydd â diddordeb mewn cymryd rhan bellach mewn gweithgareddau dan arweiniad yr Undeb, gan gynnwys cynrychiolwyr academaidd, clybiau a chymdeithasau, mentoriaid cyfoedion/adrannau, swyddogion gwirfoddol a gwirfoddoli yn gyffredinol, gan gynnwys prosiectau fel y Tîm-A.
Mae'r gwersyll yn gyfle i ystyried eich dulliau arwain a dysgu yn ogystal â datblygu sgiliau newydd a rhai presennol y bydd modd i chi eu defnyddio i gael mwy o effaith ar y campws.
Bydd y tri diwrnod yn cynnwys gweithdai, gweithgareddau datblygu tîm a gweithgareddau yn yr awyr agored a bydd o ddiddordeb arbennig i'r rheiny sydd am fod yn fwy gweithgar ym mywyd myfyrwyr neu sydd o bosib yn ystyried sefyll ein hetholiadau.
Bydd pawb sy'n mynychu’n cael tystysgrif bresenoldeb a bydd modd cofnodi eu horiau ar gyfer Gwobr Aber.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â'r broses wneud cais neu'r gwersyll ei hun, e-bostiwch mmd11@aber.ac.uk. Rhaid gwneud cais erbyn dydd Sul 20 Ionawr 2019.