- Ydych chi’n rhan o grwp neu elusen sy’n codi ymwybyddiaeth neu yn cynnig cyngor ynglyn ag Iechyd Meddwl?
- Ydych chi’n angerddol dros atal hunanladdiad?
- Hoffech chi ymuno â’r UM mewn helpu codi ymwybyddiaeth a chylchredeg cyngor ynglyn ag Iechyd Meddwl?
Ar Ddydd Sadwrn yr 20fed o Dachwedd bydd Hannah, y Swyddog Llesiant, yn cynnal taith gerdded ar y traeth er cof am Ddiwrnod Rhyngwladol Goroeswyr Colled i Hunanladdiad. Bydd y digwyddiad lleol hwn yn gorffen gyda gwylnos ac hefyd, bydd yn gyfle i’r gymuned ehangach ddod at eu gilydd a chymryd rhan. Bydd Bandstand y promenâd ar agor i bawb ac iddynt ei ddefnyddio fel lle diogel i gael y cyfle i ddod at eu gilydd a siarad, codi ymwybyddiaeth, a chofio’r rhai a gollwyd i hunanladdiad.
Gallwch ganfod mwy ar y dudalen digwyddiadau o’n gwefan
Os ydych chi’n unigolyn neu’n rhan o grwp/sefydliad sy’n hyrwyddo Iechyd Meddwl a hoffech chi ddefnyddio’r cyfle i gynnal stondin bach yn y digwyddiad hwn, yna cysylltwch â Hannah trwy eawstaff@aber.ac.uk, byddai hi wrth ei bodd yn clywed gennych!
Mwy am Ddiwrnod Rhyngwladol Goroeswyr Colled i Hunanladdiad
Yn amlach na pheidio, mae’r amser sy’n arwain at dymor gwyliau’r gaeaf yn gallu bod yn adeg anodd i oroeswyr colled i hunanladdiad. O ystyried hyn eleni, bydd Diwrnod Rhyngwladol Goroeswyr Colled i Hunanladdiad yn digwyddiad ar Ddydd Sadwrn yr 20fed o Dachwedd 2021.
Dyma ddiwrnod i’r rheini ohonom mae hunanladdiad neu golled i hunanladdiad wedi effeithio arnom ni i ddod at ein gilydd ar draws y byd – i gymryd cysur, magu dealltwriaeth a rhannu straeon i godi’r galon. Mae hefyd yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a chofio bywydau’r rhai a gollwyd i hunanladdiad.