EGO - Gwirfoddoli gydag Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Diolch i gylchgrawn EGO am gynnwys yr erthygl ganlynol yn eu rhifyn mis Gorffennaf, gellir ei ddarllen yma: ego.today/current/  


Un o'n haddewidion i fyfyrwyr yma yn UMAber yw eu helpu i baratoi ar gyfer eu hantur nesaf. Mewn marchnad swyddi graddedigion sy'n mynd y fwyfwy cystadleuol, rydym yn gwybod na fyddant yn sefyll allan oni fyddant eisoes wedi dechrau datblygu eu sgiliau a'u profiad.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn datblygu hyb gwirfoddoli ar-lein sy'n cysylltu myfyrwyr â chyfleoedd newydd, gan ganiatáu iddynt gofnodi eu horiau a chadw golwg ar eu datblygiad sgiliau. Rydym yn cydnabod eu gwaith caled gyda 'Gwobr Aber', a gyflwynir i fyfyrwyr sy'n cyfrannu’r nifer fwyaf o oriau bob blwyddyn:

Efydd

30+ o oriau

Arian

60+ awr a 4 sgil

Aur

120+ awr ac 8 sgil

Mae dros 13,000 o oriau gwirfoddoli wedi'u cofnodi ers mis Medi 2018, gan y 164 o fyfyrwyr a gofrestrodd!

Treulir llawer o'r oriau hyn yn gwirfoddoli ar y campws wrth i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau drwy aelodaeth o bwyllgorau, rolau cynrychioli a helpu gyda digwyddiadau fel Wythnos y Glas.

Roeddem yn arbennig o falch o weld dros 3,000 o oriau wedi'u cofnodi ar gyfer prosiectau gwirfoddoli yn y gymuned leol, gan gynnwys; Sgowtiaid a Geidiaid, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Ambiwlans Sant Ioan a Heddlu Dyfed-Powys.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda sawl sefydliad i greu Diwrnodau Gweithredu - cyfle i gyfrannu rhywfaint o amser i'r gymuned heb yr ymrwymiad parhaus. Mae myfyrwyr wedi helpu i gadw ein traethau'n lân, wedi darparu cymorth cadwraeth forol, wedi mynd i'r afael â materion iechyd meddwl drwy arddio cymunedol ac wedi cefnogi'r Ras-hwyl yn y Parc. Ein diwrnod gweithredu mwyaf poblogaidd y flwyddyn oedd cynnal Te-Parti ar gyfer yr Henoed!

Meddai Pippa Jones, myfyrwraig hanes ar ei 3edd blwyddyn a chyfranogwr rheolaidd mewn Diwrnodau Gweithredu:

“Mae gwirfoddoli wedi dysgu i mi fod yn fwy amyneddgar gyda phobl, cyfathrebu'n well, ac mae wedi fy helpu i ddatblygu nodweddion arweinyddiaeth; dydw i ddim yn meddwl y byddai’r rhain gen i pe bawn i heb wirfoddoli. Mae hefyd bob amser yn deimlad da gwybod eich bod yn gwneud rhywbeth i helpu rhywun arall, hyd yn oed os mai dim ond rhywbeth bach ydyw!”

Os ydych chi'n sefydliad lleol sy'n chwilio am wirfoddolwyr neu os ydych chi am weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i drefnu Diwrnod Gweithredu, cysylltwch ag Amy drwy ein gwefan (umaber.co.uk/gwirfoddoli) neu e-bostiwch (alg51 @ aber.ac.uk).

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576